![]() |
2 o 3
|
||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
Mae Comisiwn Lloegr, ar ôl ymgynghori â Chomisiwn Cymru yn ogystal â chymdeithasau'r awdurdodau lleol, newydd gyhoeddi cyngor ac arweiniad o'r fath ynghylch Cyfundrefnau Cwyno i gynorthwyo awdurdodau lleol yn Lloegr. Mae'r naill Gomisiynydd Lleol yng Nghymru ar ôl y llall wedi argymell y dylai awdurdodau ddatrys problemau'n lleol, os oes modd, ac mae sawl cyngor wedi sefydlu cyfundrefnau er ymdrin a chwynion. Yn wir, mae'r gyfraith bellach yn mynnu bod gan gynghorau gyfundrefn o'r fath ar gyfer rhai o'u gweithgareddau. Nid yw hi'n arferol cychwyn ar ymchwiliad Ombwdsmon hyd oni fydd cyngor neu awdurdod sy'n destun cwyn wedi cael cyfle i ddefnyddio ei drefniadaeth ei hun a cheisio datrys y mater yn lleol. Ymddengys y byddai nifer o awdurdodau yn croesawu arweiniad yng nghyswllt sefydlu cyfundrefn i ymdrin â chwynion, neu i adolygu cyfundrefn sy'n bod eisoes. Bwriad yr arweiniad hwn, sydd ar lun cyffelyb ond heb fod yn union yr un fath â'r arweiniad a gyhoeddwyd eisoes gan Gomisiwn Lloegr i awdurdodau lleol Lloegr, yw cynorthwyo awdurdodau Cymru i sefydlu cyfundrefn o'r fath. Nid yw'n argymell beth ddylid ei wneud. Cyfrifoldeb pob awdurdod unigol yw llunio'r gyfundrefn a fydd yn gweddu orau i'w anghenion ei hun. Fodd bynnag, mae'r arweiniad yn cynnwys rhestr o awgrymiadau ymarferol a all fod o gymorth i awdurdodau. Croesewir unrhyw sylwadau ar yr arweiniad hwn fel y gall unrhyw ddiweddariad yn y dyfodol elwa ar holl wybodaeth a phrofiad yr awdurdodau. |
|||