|
 |
Mae Adran 23(12A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 yn caniatáu i'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru gyhoeddi cyngor ac arweiniad i awdurdodau ynghylch arfer gweinyddol da.
RHAI O EGWYDDORION ARFER GWEINYDDOL DA
- Llunio a chyhoeddi polisïau clir
- Dylid cyhoeddi polisïau neu feini prawf i bawb gael gwybod beth ydynt.
- Dylai polisïau, ar ôl eu cyhoeddi, gael eu gweithredun gyson ac yn wrthrychol.
- Ar ôl dweud y dylid gweithredu polisïau cyhoeddedig yn gyson ac yn wrthrychol, serch hynny, dylid edrych ar amgylchiadau penodol pob achos,a phan fo rheswm da dros wneud eithriad, dylid cofnodi'r rheswm y gwnaed yr eithriad hwnnw. Ni ddylai awdurdod lyffetheirio ei hawl i benderfynu.
- Cyn penderfynu, dylid talu sylw ir gyfraith, cylchlythyron a chodau ymarfer perthnasol.
- Dylai awdurdodau roir ystyriaeth briodol i farn pobl yr ymgynghora â hwy.
- Os bwriedir gweithredu yn unol â phwerau a ddirprwywyd, dylai swyddogion sicrhau bod ganddynt y cyfryw awdurdod dirprwyedig a bod hynny wedi ei gofnodin iawn.
- Cyn penderfynu, dylai awdurdodau ddarganfod yr holl ffeithiau perthnasol a materol. Ni ddylid rhoi sylw i ystyriaethau amherthnasol.
- Dylai adroddiad swyddog wrth bwyllgor fod yn gywir, yn ymdrin â phob pwynt perthnasol ac o ddewis, yn enwedig ar fater cymhleth, yn ysgrifenedig.
- Mae angen gofal wrth ganiatáu hawl arbennig i un o blith nifer o bartïon mewn acos, er enghraifft ymgeisydd am ganiatâd cynllunio, annerch cyfarfod. Efallai y bydd angen cynnig cyfle cyfartal i eraill, fel gwrthwynebwyr, er mwyn osgoi annhegwch.
- Ni ddylai'r camau gweithredu a gymerir mewn achos penodol fod yn anghymesur nac yn gwbl annheg ac afresymol.
- Fe ddylai Awdurdodau roi rhesymau am eu penderfyniadau, yn enwedig os yw'r penderfyniad yn groes i'r polisi neu i arfer arferol, neu fel arall gallai ymddangos fel pe bai'r penderfyniad yn fympwyol ac yn ffafrio'r naill ochr neu'r llall.
- Os oes hawl apelio yn erbyn penderfyniad fe ddylid hysbysu'r rheiny yr effeithir arnynt.
- Fe ddylai aelodau a swyddogion fel ei gilydd fod â syniad clir o'r hyn sy'n gyfystyr ag ymddygiad derbyniol ac ymddygiad annerbyniol, ac fe ddylent fod yn gyfarwydd â'r rheolau a'r codau perthnasol yn ymwneud â safonau ymddygiad.
|
|