![]() |
||
![]() |
![]() |
|
![]() |
||
![]() |
RHAN 1 | |
1. BETH YW'R OMBWDSMAN LLYWODRAETH LEOL? |
||
2. PA AWDURDODAU? (a) Cynghorau Sir a Bwrdeistref Sirol (ond nid Cynghorau Tref neu Gymuned) (Os ydych am honni fod aelod o awdurdod wedi camymddwyn, a fyddech cystal â chyfeirio at yr adran "honiadau" gan fod y rhestr awdurdodau yn wahanol yn y fath achos.) |
||
3. PWY ALL GWYNO AM GAMWEINYDDU AC ANGHYFIAWNDER? Unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd wedi dioddef anghyfiawnder o ganlyniad i fethiannau gweinyddol awdurdod. Gall grŵp o unigolion, busnes neu gwmni gwyno hefyd. |
||
4. PA FATH O GWYNION? Rhaid i'r gŵyn fod am gamweinyddu, ac am gamweinyddu sydd wedi achosi anghyfiawnder i'r person sy'n cwyno. Mae camweinyddu yn cynnwys pethau fel oedi heb gyfiawnhad, peidio ag ufuddhau i reolau'r awdurdod ei hun neu'r gyfraith, rhagfarn, defnyddio ystyriaethau amhriodol, rhoddi gwybodaeth anghywir, a llawer o faterion eraill. Os ydych yn hawlio fod y camweinyddu wedi digwydd oherwydd i aelod dramgwyddo côd ymddygiad yr awdurdod, neu os ydych yn honni, yn gwbl ar wahân, fod aelod wedi camymddwyn, dylech gyfeirio at yr adran honiadau. Os hoffech gael cyngor am eich cwyn benodol chi, gallwch ysgrifennu i'r cyfeiriad a welir yn y Cyflwyniad i'r Safle Gwe hwn neu ffonio am gymorth. |
||
5. SUT DDYLWN I GWYNO? Rhaid i'ch cwyn fod yn un ysgrifenedig, a rhaid iddi ddweud beth yn union rydych yn credu fod yr awdurdod wedi ei wneud o'i le, a sut mae hynny wedi achosi anghyfiawnder personol i chi. Byddai'n ei gwneud hi'n haws i ni ystyried eich cwyn pe byddech yn defnyddio'r ffurflen gwyno sydd ar gael yma a'i llwytho i lawr. Dylech gynnwys cymaint o fanylion ag sy'n bosibl a chynnwys unrhyw dystiolaeth ategol, fel copïau o ohebiaeth berthnasol neu ddogfennau eraill perthnasol. Dylech gwyno ar eich rhan eich hun, fel rheol, ond os nad ydych yn gallu gweithredu drosoch eich hun, gallwch ofyn i rywun gwyno ar eich rhan cyhyd â bod gan y person hwnnw eich caniatâd ysgrifenedig i'ch cynrychioli. Os ydych am honni fod aelod wedi camymddwyn, bydd rhaid i chi gwblhau'r ffurflen honni (sydd ar gael yma) ar wahân. |
||
6. BETH FYDD YN DIGWYDD WEDI I MI GWYNO? Os bydd y gŵyn yn ymddangos, ar sail yr hyn a ddywedwch, yn un y gall yr Ombwdsman ymchwilio iddi, bydd ef neu ei staff fel arfer yn gwneud ymholiadau dechreuol ac yn ysgrifennu at yr awdurdod dan sylw (yn amgáu copi o'ch cwyn ac unrhyw ddogfennau ategol) i ofyn am wybodaeth a'i sylwadau. (Rhaid dweud wrth yr awdurdod am eich cwyn er mwyn iddo gael cyfle i ateb). Bydd yr Ombwdsman hefyd yn gofyn i'r awdurdod i geisio setlo eich cwyn. Os nad oes modd setlo, bydd yn ystyried eich cwyn yng ngoleuni'r hyn rydych chi'n ei ddweud yn eich cwyn, sylwadau'r awdurdod ar eich cwyn, ac unrhyw wybodaeth arall y bydd wedi ei chael. Bydd yn penderfynu wedyn a oes angen iddo ymholi ymhellach. Os bydd, ar ôl ymholiadau pellach y cred y bo'u hangen, yn penderfynu na ellir neu na ddylid ymchwilio ymhellach i'r gŵyn, bydd yn dweud wrthych ac yn rhoi'r rhesymau dros ei benderfyniad. Hyd yn oed os gall yr Ombwdsman barhau i ymholi, bydd rhaid iddo ystyried, er enghraifft, a fydd ymchwilio pellach yn arwain at ganlyniad gwahanol neu werth chweil. |
||
7. BETH OS YMCHWILIR YMHELLACH I'M CWYN? Os penderfyna'r Ombwdsman fwrw ymlaen â'i ymholiadau nes gallu cyhoeddi adroddiad cyhoeddus, bydd yn rhoi gwybod i chi. Yn y rhan fwyaf o achosion lle bwriedir cyhoeddi adroddiad, bydd swyddog yn ymweld â chi ac unrhyw un arall y cred y gall helpu â'r gŵyn. Bydd y swyddog yn ymweld â'r awdurdod hefyd. Ar ôl cwblhau ei ymchwiliad, bydd yr Ombwdsman yn rhoi copi o'r adroddiad sy'n cynnwys ei benderfyniad i chi ac i'r awdurdod. Bydd yr adroddiad hwn (ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol iawn) ar gael i'r cyhoedd, ond ni fydd yn cynnwys unrhyw beth fydd yn galluogi rhywun i'ch adnabod chi (yr achwynydd) neu (yn gyffredinol) unrhyw rai o'r tystion. Mae'r holl ymholi yn digwydd yn breifat. (Fodd bynnag, os honnwch fod aelod wedi tramgwyddo côd ymddygiad awdurdod, efallai y gelwir arnoch i dystio yn gyhoeddus ger bron Pwyllgor Safonau'r awdurdod neu dribiwnlys i ategu eich honiad.) |
||
8. BETH FYDD YN DIGWYDD OS CEIR FOD FY NGHWYN YN DDILYS? Os caiff yr Ombwdsman fod eich cwyn yn ddilys, a'ch bod wedi dioddef anghyfiawnder o ganlyniad i fethiannau'r awdurdod, bydd fel rheol yn awgrymu y dylai'r awdurdod gynnig gwneud iawn am yr anghyfiawnder hwnnw â chi. Nid yw ei awgrymiadau'n rhwymo'r awdurdod yn gyfreithiol, ond gweithredir arnynt yn y mwyafrif helaeth o achosion. |
||
9. A OES UNRHYW FATERION NA ALL YMCHWILIO IDDYNT? Oes, mae nifer o faterion na all ymchwilio iddynt o safbwynt cwynion am anghyfiawnder. Er enghraifft, ni all gwestiynu rhinweddau penderfyniad onid oes camweinyddu wedi bod. Gan hynny, ni all gwestiynu'r hyn mae awdurdod wedi ei wneud am yr unig reswm nad ydych chi'n cytuno â hynny. Mae rhai materion, fel materion personél, trefniadaeth fewnol a chwricwlwm ysgolion a materion masnachol/cytundebol (ac eithrio gwerthu neu brynu tir) y tu allan i'w awdurdodaeth. Ni all ymchwilio i faterion sy'n effeithio ar holl drigolion ardal awdurdod, neu'r rhan fwyaf ohonynt. Ni all ymchwilio fel arfer os oes modd gwneud iawn drwy gyfrwng apêl at weinidog y llywodraeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, tribiwnlys, drwy achos mewn llys barn, neu os yw'ch cwyn am anghyfiawnder yn ymwneud â mater y gwyddech amdano fwy na 12 mis cyn i chi gwyno. (Fodd bynnag, nid yw'r cyfyngiadau hyn ar awdurdodaeth yr Ombwdsman yn berthnasol i honiadau o gamymddwyn.) |
||