Rol yr Ombwdsman
RHAN 2
 

1. HONIADAU O GAMYMDDWYN

2. PWY ALL GYFLWYNO HONIAD?
3. SUT MAE CYFLWYNO HONIAD?
4. BETH FYDD YN DIGWYDD WEDI I MI LENWI'R FFURFLEN CYFLWYNO HONIAD A'I DYCHWELYD AT Y COMISIWN?

5. BETH YW CANLYNIADAU POSIBL YMCHWILIAD?

6. BETH OS BYDD FY HONIAD YN ARWAIN AT GYFEIRIO AT BWYLLGOR SAFONAU NEU DRIBIWNLYS?
 

 

1. HONIADAU O GAMYMDDWYN
Mae'n rhaid i'r holl awdurdodau a restrir isod fod â chôd ymddygiad yn dweud sut y dylai eu haelodau ymddwyn, ac mae'n rhaid i'w holl aelodau gytuno i ufuddhau iddo. (Gallwch gael copi o'r côd perthnasol gan yr awdurdod.) Yn ychwanegol at ymchwilio i gwynion am anghyfiawnder, gall yr Ombwdsman ymchwilio hefyd i honiad fod aelod neu aelod cyfetholedig o'r awdurdodau hyn heb ufuddhau i gôd ymddygiad yr awdurdod. Yr awdurdodau dan sylw yw:

(a) Cyngor Sir
(b) Cyngor Bwrdeistref Sirol
(c) Cyngor Cymuned
(ch) Awdurdod Tân
(d) Awdurdod Heddlu
(dd) Awdurdod Parc Cenedlaethol
(e) Cyd-Awdurdod

 
2. PWY ALL GYFLWYNO HONIAD?
Gall unrhyw un gyflwyno honiad.
 
3. SUT MAE CYFLWYNO HONIAD?
Rhaid i'r honiad fod yn un ysgrifenedig, a rhaid iddo ddweud ym mha fodd mae'r aelod wedi tramgwyddo côd ymddygiad yr awdurdod. Os ydych am roi honiad o'r fath ger bron Comisiynydd Lleol Cymru (yr Ombwdsman Llywodraeth Leol) dylech lenwi'r ffurflen ar gyfer honiad o gamymddwyn sydd ar gael yma (a'i llwytho i lawr) a'i hanfon i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
 
4. BETH FYDD YN DIGWYDD WEDI I MI LENWI'R FFURFLEN CYFLWYNO HONIAD A'I DYCHWELYD AT Y COMISWN?
Caiff eich honiad ei archwilio i weld a ydyw'n un y gellir ymchwilio iddo. Efallai y bydd y Comisiynydd yn gofyn i ymchwilydd gyfweld â chi a gofyn i chi arwyddo datganiad ffurfiol ysgrifenedig o'r hyn rydych yn ei ddweud i ategu eich honiad. Os bydd y Comisiynydd Lleol yn penderfynu, yng ngoleuni'r hyn a ddywedwch, na ddylid ymchwilio i'ch honiad, bydd yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu ynghylch ei benderfyniad a'r rhesymau amdano. Os penderfyna ymchwilio i'r honiad, bydd rhaid iddo, ar ryw adeg, ddweud wrth yr aelod dan sylw am yr honiad a rhoi cyfle iddo/iddi gynnig sylwadau arno. Y Comisiynydd Lleol fydd yn penderfynu ar union ffurf yr ymchwiliad, yng ngoleuni amgylchiadau pob achos, ond mae ganddo'r hawl i roi'r gorau i'w ymchwiliad ar unrhyw adeg. Os bydd yn rhoi'r gorau i ymchwilio gall, ar yr un pryd, benderfynu cyfeirio'r honiad at Swyddog Monitro'r awdurdod i hwnnw/honno ymchwilio ymhellach iddo.
 

5. BETH YW CANLYNIADAU POSIBL YMCHWILIAD?
Gall y Comisiynydd benderfynu:

(a) nad oes unrhyw dystiolaeth o fethu ag ufuddhau i gôd ymddygiad, neu
(b) nad oes angen gweithredu dan yr amgylchiadau penodol, neu
(c) y dylid cyfeirio canlyniad yr ymchwiliad at Swyddog Monitro'r awdurdod dan sylw i'w ystyried gan Bwyllgor Safonau'r awdurdod, neu
(ch) y dylid cyfeirio canlyniad yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru i geisio penderfyniad gan dribiwnlys.

Os penderfyna'r Comisiynydd cyfeirio achos naill ai at y Swyddog Monitro neu at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, bydd yn paratoi adroddiad ar ei ymchwiliad. Ni fydd o anghenraid yn paratoi adroddiad os penderfyna nad oes tystiolaeth y tramgwyddwyd y côd neu nad oes angen gweithredu ymhellach, ond fe fydd yn eich hysbysu o ganlyniad yr ymchwiliad.

 
6. BETH OS BYDD FY HONIAD YN ARWAIN AT GYFEIRIO AT BWYLLGOR SAFONAU NEU DRIBIWNLYS?
Os caiff adroddiad y Comisiynydd ar ei ymchwiliad i'ch honiad ei gyfeirio at Bwyllgor Safonau neu dribiwnlys, y Pwyllgor Safonau neu'r tribiwnlys hwnnw fydd yn penderfynu a dramgwyddwyd y côd ymddygiad ai peidio, ac os felly, pa gosb, os o gwbl, ddylid ei rhoi i'r aelod dan sylw. (Gall Pwyllgor Safonau wahardd aelod rhag bod yn aelod o'r awdurdod am hyd at 6 mis. Gall tribiwnlys wahardd aelod rhag bod yn aelod o unrhyw awdurdod am hyd at 5 mlynedd.) Y Pwyllgor Safonau neu'r tribiwnlys fydd yn penderfynu hefyd pa dystiolaeth fydd ei hangen arno cyn iddo benderfynu, ond efallai y bydd y Pwyllgor Safonau neu'r tribiwnlys yn gofyn i chi dystio i ategu eich honiad. Bydd gwrandawiadau'r Pwyllgor Safonau neu'r tribiwnlys yn rhai cyhoeddus fel arfer, ac yn wahanol i sefyllfa rhywun sydd yn cwyno am gamweinyddu ac anghyfiawnder ond heb honni camymddwyn (gweler yr adran gwynion) ni ellir sicrhau y byddwch yn gallu parhau yn ddienw ac efallai y daw'r rheini sy'n mynychu achos y Pwyllgor Safonau neu'r tribiwnlys i wybod pwy ydych chi.