Make a Complaint
Y COMISIWN DROS WEINYDDU LLEOL YNG NGHYMRU
HONIAD YN YMWNEUD Â THORRI'R CÔD YMDDYGIAD AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL
Defnyddiwch inc du os gwelwch yn dda a chwblhewch eich enw mewn priflythrennau. Ar ôl llenwi'r ffurfflen hon, anfonwch hi at Y Comisiynydd dros Weinyddu Lleol yng Nghymru, Tŷ Derwen, Heol y Llys, PEN-Y-BONT AR OGWR, CF31 1BN.

1.
Enw(au) llawn y sawl(rhai) sy'n honni tramgwydd:
 
2.
Cyfeiriad:
 


4.
Rhif Ffôn:
 
5.
Cyfeiriad e-bost:
 
6.
Yn erbyn pwy y mae eich honiad yn ymwneud â thorri'r Côd Ymddygiad?
 


7.
Aelod o ba awdurdod yw'r sawl yr ydych yn cyflwyno honiad yn ei (h)erbyn?
 


8.
Beth ydych yn ei honni y gwnaeth yr aelod o'i le?
 



9.
Pa amod(au) yn y Côd Ymddygiad a dorrwyd gan yr aelod yn ôl a ddywedwch chi? Dalier Sylw - gallwch gael copïau o'r Côd gan yr awdurdod
 



10.
Ym mha fodd y torrodd yr aelod y Côd Ymddygiad yn eich tyb chi?
 


11.
Pryd ddigwyddodd y tramgwydd honedig?
 


12.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu eich honiad bod yr aelod wedi tramgwyddo'r Côd Ymddygiad? (Nodwch y dystiolaeth isod, ac ysgrifennwch ar dudalennau ychwanegol os bydd angen. Dylid cynnwys copïau o unrhyw ohebiaeth berthnasol, a phapurau a dogfennau perthnasol yr ydych yn dweud eu bod yn ategu eich honiad.)
 


13.
A oes tystion a all ategu'r hyn rydych yn ei ddweud? Os oes, nodwch eu henwau llawn, cyfeiriadau a rhifau ffôn isod.
 


14.
Ydych chi wedi cyflwyno'ch honiad i Swyddog Monitro'r Awdurdod? Os felly, pryd, a beth oedd yr ymateb?
 


15.
A gafodd yr honiad ei ystyried gan Bwyllgor Safonau'r awdurdod? Os felly, pryd, a beth oedd y canlyniad?
 


Dalier Sylw: Drwy arwyddo'r ffurflen hon a'i hanfon yn ôl at y Comisiynydd rydych yn cydnabod eich bod yn deall ei bod yn debyg y datgelir pwy ydych wrth yr aelod yr ydych yn honni iddo/iddi dramgwyddo, wrth yr awdurdod y mae'n aelod ohono, ac o bosib eraill y bydd rhaid iddynt gael gwybod pwy ydych. Byddwch hefyd yn cadarnhau eich bod yn fodlon, os gelwir arnoch i wneud hynny, rhoi tystiolaeth lafar yn gyhoeddus i ategu eich honiad wrth Bwyllgor Safonau'r awdurdod neu unrhyw dribiwnlys achos y gellid ei benodi gan Lywydd Pwyllgor Dyfarnu Cymru i ystyried unrhyw adroddiad y gallai'r Comisiynydd Lleol ei gyhoeddi os penderfyna ymchwilio i'ch honiad.

Llofnod y person sy'n cyflwyno'r honiad:
 
Dyddiad llofnodi: