Arfer Da
Dyfeisio cyfundrefn gwyno ar gyfer cyngor:
sut mae mynd ati
9. SUT Y GELLIR RHOI CYHOEDDUSRWYDD I'R DREFNIADAETH?

Mae'r cyhoeddusrwydd a roddir i'r drefniadaeth yn elfen bwysig a gellid ystyried y dulliau a ganlyn o sicrhau hynny:

(a) Lawnsio'r cynllun - efallai y bydd y cyngor am lawnsio'i gyfundrefn gwyno yn gyhoeddus. Byddai hyn yn brawf ffurfiol bod y cyngor yn benderfynol o ddarparu gwasanaethau o'r safon uchaf ar gyfer cwsmeriaid, a hefyd yn cynorthwyo i roi cyhoeddusrwydd i'r gyfundrefn.

(b) Cyhoeddusrwydd cyffredinol - o bryd i'w gilydd gellid manteisio ar gyfleoedd am ragor o gyhoeddusrwydd cyffredinol, er enghraifft, pan gyflwynir adroddiadau arwylio.

(c) Cyhoeddiadau perthnasol gan y cyngor - gallai'r rhain alw sylw cwsmeriaid at y drefniadaeth gwyno.

(ch) Staff - gellid gofyn iddynt ddweud wrth gwsmeriaid am y drefniadaeth pa bryd bynnag y byddai hynny'n briodol.

(d) Ffurflenni - gallai unrhyw ffurflenni cais am wasanaeth gan y cyngor egluro hawl cwsmer i gwyno.

(dd) Deunydd cyhoeddusrwydd a ffurflenni cwyno - gallai'r rhain fod ar gael ym mhob man lle daw'r cyngor i gysylltiad rheolaidd a chwsmeriaid a'u cyflenwi i asiantaethau cynghori.

(e) Cyhoeddusrwydd wedi ei dargedu - wedi ei anelu at grwpiau o bobl neu feysydd gwasanaeth lle gwelid bod anghenion neilltuol.
back