Arfer Da
Dyfeisio cyfundrefn gwyno ar gyfer cyngor:
sut mae mynd ati
8. PA GAMAU ELLIR EU CYMRYD I BARATOI CYFUNDREFN GWYNION A CHYCHWYN EI GWEITHREDU?

Byddai'r canlynol yn gamau defnyddiol:

(a) Adolygu trefniadaethau a chyfrifoldebau presennol am gwynion

Gallai'r adolygiad hwn gynnwys:

  • gofynion trefniadaethau ystatudol presennol a sut y gellir cynnwys y rhain mewn cyfundrefn gynhwysfawr

  • trefniadaethau cwyno eraill sydd yn bod, a sut y gellir cynnwys nodweddion gorau'r rhain yn y trefniadau newydd.


(b) Gwneud y berthynas a threfniadaethau eraill y cyngor yn glir

Bydd gan bob cyngor drefniadaethau neu raglenni sy'n berthnasol i'w drefniadaeth gwyno, ac y bydd angen iddynt gydweddu a hi; er enghraifft, trefniadaethau disgyblu ac achwyn, trefniadaeth ymchwilio i honiadau o gamymddwyn ariannol, polisiau perthnasol megis gofal cwsmeriaid, sicrhau safonau, cyfle cyfartal, a rhai sy'n anelu at ddileu rhagfarn a gwahaniaethu annheg ar sail hil. Mae'n neilltuol o bwysig, er enghraifft, egluro perthynas y drefniadaeth gwyno i drefniadaethau disgyblu. Os bydd gofyn gweithredu yn erbyn gweithiwr o ganlyniad i gwyn, rhaid gwneud hynny yn unol a'r drefniadaeth ddisgyblu. Rhaid ystyried unrhyw weithredu disgyblu yn y modd priodol drwy gyfeirio at amodau'r drefniadaeth ddisgyblu, ac y mae'n fater ar wahan, er y gall yr ymchwiliad i'r gwyn fod yn berthnasol iddo.

(c) Paratoi amlinelliad o gyfundrefn

Bydd yn bwysig cael pawb i dderbyn elfennau allweddol y gyfundrefn arfaethedig o'r cychwyn cyntaf. Gallai drafft amlinellaid o'r gyfundrefn nodi

  • y rhesymau o blaid sefydlu trefniadaeth gwyno

  • yr egwyddorion y bwriedir glynu wrthynt

  • elfennau arfaethedig y gyfundrefn

  • y dull ymgynghori arfaethedig

  • braslun o'r trefniadau ar gyfer cyhoeddusrwydd

  • braslun o'r trefniadau ar gyfer hyfforddi

  • braslun o'r trefniadau ar gyfer arwylio, adolygu, a chael ymateb.

(ch) Paratoi cyfundrefn fanwl
Ar ol ymgynghori ynglyn a'r amlinellaid, gellid paratoi cyfundrefn fanwl wedyn, ac yna ymgynghori ymhellach. Byddai hyn yn caniatau i'r rheini yr ymgynghorwyd a hwy gynnig sylwadau ar y manylion yn ogystal ag ar amcanion ac egwyddorion y gyfundrefn.

(d) Sicrhau cymeradwyaeth

Cyn gynted ag y cytunir ar fanylion y gyfundrefn, gellir sicrhau cymeradwyaeth ffurfiol iddi.
(dd) Bwrw golwg dros drefniadaethau sy'n bod eioes

Gellid bwrw golwg wedyn dros drefniadaethau a chyhoeddiadau eraill i sicrhau eu bod yn gydnaws a'r drefniadaeth gwyno, a gwella'r trefniadaethau a'r cyhoeddiadau eraill hynny lle byddai angen.

(e) Arwylio ac adolygu

Da o beth fyddai bod a threfniadau o fewn y gyfundrefn ei hun i arwylio'r modd y mae'n gweithio a'i hadolygu'r rheolaidd i weld a oes angen newidiadau. Gellid trefnu bod aelodau, rheolwyr hyn, darparwyr gwasanaethau, cynrychiolwyr staff a chynrychiolwyr defnyddwyr yn ogystal ag achwynwyr yn cyfrannu i'r broses hon.

back