|
|
6. BETH YW EGWYDDORION CYFUNDREFN GWYNO DDA?
Bydd cyfundrefn gwyno dda:
- yn amlwg, ac o fewn cyrraedd hawdd i ddefnyddwyr gwasanaethau
- yn hawdd ei defnyddio, yn gwneud i achwynwyr deimlo'n esmwyth a hi, gyda'r camau wedi eu disgrifio'n glir a'r cyfrifoldeb wedi ei ddosrannu'n glir
- yn gyflym, yn cynnig gweithredu di-oed a chanlyniadau buan, o fewn terfynau amser a bennwyd o flaen llaw
- yn wrthrychol, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ymchwiliad annnibynnol o'r tu allan i'r adran dan sylw os bydd angen
- yn gyfrinachol o'r safbwynt y bydd yn diogelu preifatrwydd yr achwynydd (er y bydd gwybodaeth ddienw am gwynion ar gael i'r cyhoedd mewn adroddiadau arwylio)
- yn gynhwysfawr, gydag egwyddorion a nodweddion allweddol a fydd mewn grym ar gyfer pob adran o'r cyngor, er gwaethaf y ffaith y gall fod amrywiadau adrannol unigol yng ngoleuni gofynion cyfreithiol neu weithrediadol.
|
|