|
|
5. PWY DDYLID YMGYNGHORI A HWY?
Gall ymgynghori yn eang yn gynnar yn y broses gynorthwyo i sicrhau cefnogaeth lawn aelodau, rheolwyr, staff, a'r cyhoedd. Bydd gofyn i'r cyngor benderfynu pa grwpiau y dylid ymgynghori a hwy, gan gynnwys, o bosib:
- aelodau cyngor o bob plaid wleidyddol
- gweithwyr ar bob lefel ac o bob adran
- undebau llafur a chymdeithasau staff eraill
- ymgynghorwyr arbenigol o fewn y cyngor megis y swyddog arwylio, cyfreithwyr, rheolwyr ariannol a swyddogion cyfle cyfartal
- defnyddwyr gwasanaethau'r cyngor o'r sectorau gwirfoddol a phreifat, asiantaethau cynghori allanol, grwpiau defnyddwyr a mudiadau lles
- grwpiau cymuned a mudiadau sy'n cynrychioli lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl ag anghenion neu ddiddordebau arbennig.
|
|