Arfer Da
Dyfeisio cyfundrefn gwyno ar gyfer cyngor:
sut mae mynd ati
4. BETH DDYLID EI WNEUD GYNTAF?

Y man cychwyn er sefydlu cyfundrefn gwyno yw bod aelodau etholedig, swyddogion hyn a'r staff yn gyffredinol ag ymrwymiad i'r egwyddor. Bydd gofyn i'r aelodau bennu amcanion i'r gyfundrefn. Byddant hefyd am sicrhau yr ystyrir unrhyw flinder meddwl neu amheuaeth ar ran y staff yn llawn, ac y darperir yr hyfforddiant briodol.

Byddai'n fuddiol dynodi swyddog hyn ar y cychwyn a fydd a'r cyfrifoldeb penodol am y trefniadau ar gyfer cychwyn gweithredu'r gyfundrefn. Gallai ef neu hi gytuno ar raglen ac amserlen er cyflwyno'r gyfundrefn, ac adrodd yn rheolaidd wrth bwyllgor priodol y cyngor. Dichon y caiff ef neu hi mai da o beth fyddai cael cefnogaeth a chyfraniad gweithgor yn cynnwys aelodau o wahanol adrannau'r cyngor, grwpiau sy'n defnyddio gwasanaethau'r cyngor, ac asiantaethau cyngor a chefnogaeth allanol. Dichon y gall y Comisiwn dros Weinyddu Lleol, cymdeithas yr awdurdodau lleol, neu gynghorau eraill sydd eisoes wedi sefydlu cyfundrefnau cwyno gynnig cyngor.

Dylid ystyried a fydd angen adnoddau ychwanegol ac, os bydd, sut y gellir eu cyflenwi. Dichon y bydd gan rai aelodau o'r staff gyfrifoldebau ychwanegol yn deillio o drefniadaethau newydd. Efallai y bydd angen edrych ar y newidiadau yng nghyfrifoldebau'r staff, ac efallai y bydd angen ystyried yr effaith yn ei grynswth er penderfynu a fydd angen cyflogi staff ychwanegol. Dylai'r asesiad adnoddau ystyried hefyd yr angen am hyfforddiant a chyhoeddusrwydd.
back