Arfer Da
Dyfeisio cyfundrefn gwyno ar gyfer cyngor:
sut mae mynd ati
3. BETH YW AMCANION CYFUNDREFN GWYNO EFFEITHIOL?

Y prawf pennaf ar effeithiolrwydd cyfundrefn gwyno yw a ydyw'n cynorthwyo i ddatrys anfodlonrwydd cwsmeriaid ar y gwasanaeth y maent wedi ei dderbyn neu y maent yn credu y dylent fod wedi ei dderbyn. Bydd cyfundrefn gwyno effeithiol yn darparu:

  • ffordd syml i gwsmeriaid neu rywun a fydd yn gweithredu ar eu rhan i ddod a chwyn ger bron y cyngor

  • trefniadaeth er ymchwilio i gwyn

  • modd o hysbysu'r achwynydd yn gyson o hynt a helynt y gwyn yn ogystal a'r canlyniad yn y pen draw

  • iawndal lle ceir bod y gwyn yn un ddilys

  • ffordd o sicrhau y gweithredir i sicrhau na fydd problemau a ddarganfyddir yn codi eto

  • trefniadaeth arwylio ac adolygu gan adrannau ac aelodau etholedig fel y gellir ystyried patrwm ac amledd cwynion wrth benderfynu ar ddosrannu adnoddau, blaenoriaethu, cynllunio, a sicrhau safonau.
back