Arfer Da
Dyfeisio cyfundrefn gwyno ar gyfer cyngor:
sut mae mynd ati
2. PAM FOD POBL YN CWYNO?

Mae llawer o gwynion yn codi oherwydd cyfathrebu gwael rhwng y cyngor, ei staff a'r cyhoedd. Bydd eraill yn codi oherwydd na chylchredir gwybodaeth am wasanaethau cyngor yn eang ac yn glir. Po gliriaf y dealla'r cyhoedd yr hyn sydd ganddynt hawl ei ddisgwyl gan gyngor, y mwyaf priodol a chywir eu ffocws y bydd eu dadleuon.

Ceir llai o gwyno os bydd gan gyngor bolisiau addas a chynhwysfawr; trefniadaeth eglur er gweithredu'r polisiau hynny; staff sydd wedi eu hyfforddi'n dda; a chyfathrebu da, yn fewnol ac allanol.

Mae'n bwysig sicrhau bod holl gyfathrebu'r cyngor mewn iaith syml a chlir sydd yn ei wneud yn hawdd ei ddeall; ei fod ar gael yn Gymraeg lle bo galw am hynny (ac mewn ieithoedd eraill o bosib mewn rhai ardaloedd); bod unrhyw ffurflenni angenrheidiol wedi eu dylunio'n iawn fel na bont yn peri dryswch; bod cymorth hawdd ei gael ar gyfer y rheini sy'n ei chael hi'n anodd deall y drefn neu gwblhau ffurflenni; a bod y staff wedi eu hyfforddi i ymateb yn bositif a rhoi help llaw i'r rheini sydd ag angen cyngor neu sydd yn ceisio cyngor ganddynt.
back