Arfer Da
Dyfeisio cyfundrefn gwyno ar gyfer cyngor:
sut mae mynd ati
11. SUT Y GALL TREFNIADAETH CWYNION HELPU CYNGOR I WELLA EI WASANAETHAU?

Er mai prif amcan y gyfundrefn gwyno yw cynnig dull effeithiol i gwsmeriaid o gwyno a datrys eu problemau, amcan arall pwysig iawn fydd gwella gwasanaethau, a'r modd y darperir hwy. Rhaid i'r gyfundrefn gynnwystrefniadau ar gyfer cofnodi a dadansoddi'r mathau o gwynion, a thestun pob un, yn ogystal a chanlyniad yr ymchwiliad. Gellir bwydo'r wybodaeth hon yn ol i adrannau a darparwyr gwasanaethau ac adrodd arni wrth aelodau er cynorthwyo gyda phenderfynu ac arolygaeth effeithiol ar weithgareddau'r cyngor. Gellir adrodd ar ganlyniad unrhyw ymchwiliad lle nodir camgymeriadau neu broblemau wrth brif swyddog yr adran dan sylw fel y gellir gweithredu yn y modd priodol i sicrhau na chyfyd yr un broblem eto. Gellir cyflwyno adroddiadau rheolaidd ar gwynion a dderbyniwyd, eu cynnwys a'r canlyniad i bwyllgor Adolygu Perfformiad a phwyllgorau perthnasol eraill. Gallant fod ar gael i'r cyhoedd hefyd. Gall y prosesau arwylio ac adolygu hyn fod yn elfen arwyddocaol yn system sicrhau safonau'r cyngor.
back