Arfer Da
Dyfeisio cyfundrefn gwyno ar gyfer cyngor:
sut mae mynd ati
1. PAM MAE ANGEN CYFUNDREFN GWYNO?

Mae'r rhesymau o blaid bod a^ chyfundrefn gwyno yn cynnwys y canlynol:

- mae unigolion bellach yn fwy ymwybodol o'u hawl i leisio beirniadaeth ac awgrymu gwelliannau

- mae cyrff cyhoeddus yn rhoi mwy o bwyslais ar ddarparu gwasanaethau o'r safon orau y gellir ei fforddio

- mae mwy o bwyslais yn cael ei roi ar bwysigrwydd hyrwyddo a datblygu gofal am gwsmeriaid

- fel rhan gynhenid o bolisi gofal am gwsmeriaid a rhaglen sicrhau safonau, gall cyfundrefn gwyno ddangos bod cyngor yn poeni am ei etholwyr

- nid oes rhaid i gyfundrefn gwyno fod yn ymateb amddiffynol i ddarganfyddiad o nam neu ddiffyg; yn hytrach, gall fod yn fodd positif o hyrwyddo boddhad cwsmeriaid a darganfod lle gellir gwella gwasanaethau

Bydd cyfundrefn dda yn sicrhau yr ymdrinir yn fuan ac o wirfodd a chwynion mor agos at wraidd y broblem ag sy'n bosibl; bod trefn wedi ei diffinio er ymdrin a chwynion sy'n dal heb eu datrys; ac y gellir elwa ar wersi a ddysgwyd tra'n ymchwilio i gwynion i wella gwasanaethau'r cyngor.
back