Arfer Da
Dyfeisio cyfundrefn gwyno ar gyfer cyngor:
sut mae mynd ati
ATODIAD 2

GWEITHREDU Y GELLIR EI YSTYRIED OS YW CWYN YN DDILYS

1. Rhagarweiniad

Pan geir fod cyfiawnhad i gwyn, rhaid ystyried pa feddyginiaeth i'w chynnig. Dylai'r feddyginiaeth fod yn gymwys i'r gwyn. Fel arfer, bydd ymddiheurad yn briodol, a dichon y bydd rhaid ystyried gweithredu pellach.

2. Dulliau o weithredu i'w hystyried

Yr egwyddor gyffredinol y dylid ei dilyn yw y dylid gosod achwynydd, cyn belled ag y bo modd, yn y sefyllfa y byddai ynddi oni bai bod rhywbeth wedi mynd o'i le.

Rhaid pennu

  • pwy all weithredu i unioni'r sefyllfa, ac i ba raddau y gellir gweithredu o dan bwerau a ddirprwywyd

  • trefniadau i sicrhau y gweithredir y feddyginiaeth

  • trefniadau i sicrhau bod y cyngor yn gweithredu o fewn ei bwerau cyfreithiol

  • bod yr agwedd tuag at feddyginiaethau yn rhesymol o gyson.


Gellir datrys rhai cwynion drwy ddarparu'r gwasanaeth y mae ar yr achwynydd ei eisiau. Mewn achosion eraill, efallai mai'r cam priodol fydd newid y trefniadaethau er osgoi peri anawsterau cyffelyb yn y dyfodol naill ai i'r achwynydd unigol neu i gwsmeriaid yn gyffredinol. Dichon y cyfyd amgylchiadau pan fydd yr achwynydd wedi dioddef colled neu drallod, ac efallai y bydd y cyngor am ystyried talu iawndal ariannol. Efallai y bydd rhywfaint o arweiniad cyffredinol ar sail profiad yr Ombwdsmon o gymorth yn y fan hon.

3. Arweiniad ar iawndal

Bydd y cwestiwn a ddylid talu iawndal ariannol, ac os felly, pa faint, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Lle'r ystyrir mai priodol fyddai talu iawndal, gellid ystyried y canllawiau a ganlyn:

  • (a) Lle dioddefwyd colledion ariannol penodol, dichon mai ad-dalu'r rhain fyddai'r cam priodol (yn ogystal ag ystyried a ddylid talu llog).

  • (b) Lle honnir y dibrisiwyd gwerth eiddo, gellid ystyried ceisio prisiad annibynnol, er enghraifft gan y Prisydd Dosbarth, gyda'r nod o dalu iawndal am unrhyw wahaniaeth yn y gwerth yn deillio o'r weithred y cwynwyd amdani.

  • (c) Lle bu'n rhaid i denant fyw mewn amodau gwael am gyfnod hwy nag oedd yn rhesymol, gall y math o iawndal a ddyfarnir gan y llysoedd sirol o dan amgylchiadau cyffelyb gynnig canllawiau er asesu'r iawndal.

  • (ch) Lle bu'n rhaid i'r achwynydd dreulio cyfnod afresymol neu arwyddocaol o amser ar drywydd y mater, dichon y byddai tal am "amser a thrafferth" yn briodol.

  • (d) Os parwyd pryder, trallod neu anghyfleustra eithafol gan y digwyddiadau, gellid ystyried talu swm i adlewyrchu'r ffactorau hynny.
back