Adroddiad Blynyddol
CRYNODEB O ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMAN LLYWODRAETH LEOL DROS GYMRU AM Y FLWYDDYN ARIANNOL 1999/2000

Mae adroddiad blynyddol yr Ombwdsman Llywodraeth Leol dros Gymru am y flwyddyn ariannol yn gorffen ar 31ain Mawrth 2000 yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae'r adroddiad yn dangos fod gostyngiad o bron 19 y cant yn nifer y cwynion a wnaethpwyd i'r Ombwdsman y llynedd yn erbyn awdurdodau lleol yng Nghymru i'w cymharu â'r flwyddyn flaenorol - 919 o'u cymharu â 1134. Dyma'r gostyngiad canrannol blynyddol mwyaf yn y cwynion i swyddfa'r Ombwdsman yn ystod y bum mlynedd ar hugain o'i fodolaeth. Cwynion am gynllunio a thai oedd yn dal yn fwy niferus er fod gostyngiad yn nifer y cwynion yn y ddau ddosbarth.

  • Angen i hyfforddi aelodau o Bwyllgorau Apêl Addysg sy'n delio ac apeliadau ynglyn â mynediadau i ysgolion.
  • Gwerth canfasio o ddrws i ddrws gan staff cofrestru etholiadol er mwyn sicrhau cywirdeb y cofrestr etholiadol.
  • Angen cael system dêg ac wrthrychol i benderfynu blaenoriaeth rhwng ymgeiswyr sy'n cystadlu am wasanaeth pan fod galwad am y gwasanaeth yn fwy na'r adnoddau sydd ar gael.
  • Angen i ystyried amgylchiadau unigol pob achos ac i roi ystyriaeth briodol i wrthwynebiadau cyn mabwysiadu polisïau.

Mae'r Ombwdsman yn pwysleisio pwysigrwydd fod aelodau yn dilyn y Côd Cenedlaethol Ymddygiad Llywodraeth Leol. Hefyd, mae'n tynnu sylw at fethiant rhai awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol, a rhai penderfyniadau cynllunio gwrthnysig.

Y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru,
Ty'r Dderwen,
Heol y Llys,
Penybont-ar-Ogwr,
CF31 1BN


13 Gorffennaf 2000