![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
Croeso i safle gwe y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru. (Caiff y Comisiynydd ei adnabod fel yr Ombwdsman Llywodraeth Leol.) Sefydlwyd y Comisiwn ym 1974 (gan Ddeddf Llywodraeth Leol y flwyddyn honno). Mae'r Comisiwn yn cynnwys y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth (ar hyn o bryd Ms Ann Abraham) a Chomisiynydd Lleol (neu Ombwdsman) dros Gymru. Yr Ombwdsman Llywodraeth Leol dros Gymru ar hyn o bryd yw Elwyn Moseley. Mae gan y Comisiynydd Lleol bŵer yn unol â Deddf 1974 i ymchwilio i gwynion gan y cyhoedd sy'n tybio bod camweinyddu ar ran awdurdodau lleol yng Nghymru wedi achosi iddynt ddioddef anghyfiawnder. Cafodd bwerau ychwanegol yn y flwyddyn 2001 i ymchwilio i honiadau fod aelodau o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi methu â chydymffurfio â chôd ymddygiad eu hawdurdod. Yr Ombwdsman Llywodraeth Leol dros Gymru, Rhif Ffôn. (01656) 661325 |
||