YMCHWILIO I HONIADAUN YMWNEUD Â CHAMYMDDWYN GAN AELODAU O AWDURDODAU

Ers diwedd 2001, maen rhaid fod gan bob cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymunedol, pob awdurdod tân, awdurdod parc cenedlaethol ac awdurdod heddlu a phob cyd-awdurdod yng Nghymru gôd ymarfer (syn cynnwys amodaur côd ymddygiad enghreifftiol a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar Orffennaf 28ain 2001) syn amodi sut y dylai eu haelodau ymddwyn, ac mae pob un ou haelodau wedi gorfod ymlynu wrth y cod hwnnw.

Maer Ombwdsman yn meddu ar awdurdodaeth i ymchwilio i honiadau bod aelodau or awdurdodau hynny wedi methu â chydymffurfio â chôd ymddygiad eu hawdurdod.

Ceir crynodebau o honiadau y maer Ombwdsman wedi eu terfynu yn unol âr awdurdodaeth newydd hwn yn yr adran Ymchwiliadau. Cliciwch yma i gael mynediad at Ymchwiliadau - Honiadau.

Achosion a derfynwyd yn unol âr Côd (1990) blaenorol

Rhwng 1990 a 2000 fe gyhoeddodd yr Ombwdsman nifer o adroddiadau ac ynddynt daeth ir casgliad bod aelod neu aelodau o awdurdod lleol wedi torri rhagflaenydd y codau ymddygiad newydd, Côd Ymddygiad Llywodraeth Leol 1990. Ceir crynodebau or adroddiadau hynny ar y tudalennau canlynol. Fe ddylid mynd ati gan bwyll wrth geisio defnyddior achosion hynny fel arweiniad i ddehonglir codau newydd. Fodd bynnag, yn enwedig gyda golwg ar y rhwymedigaeth sydd ar aelodau i ddatgan cysylltiadau preifat, gallent roi rhywfaint o arweiniad defnyddiol yng nghyswllt y mathau o faterion sydd wedi codi yn y gorffennol.

Gall unrhyw achos o dorrir côd ymddygiad newydd arwain at ddiarddel yr aelod dan sylw oi swydd am hyd at bum mlynedd gan dribiwnlys achos. Nid oedd torri côd 1990 yn arwain at gosb o unrhyw fath, ond roedd yn ddyletswydd ar yr Ombwdsman i enwir aelod a oedd wedi torrir côd yn ei adroddiad oni bai ei fod yn ystyried y byddain annheg gwneud hynny.

Cliciwch yma i lwytho i lawr grynodebau o adroddiadau ar gwynion yn gysylltiedig â Chôd Ymddygiad Llywodraeth Leol Cenedlaethol 1990, sydd ar ffurf ffeiliau pdf, neu cliciwch ar y botwm ar ochr dde eich llygoden a dewiswch gadwr ffeil ar eich cyfrifiadur eich hunan.