Ymchwiliadau

CYNLLUNIO

Caniatad

99/0065/N/140 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd a Phort Talbot

Roedd y gwyn yn ymwneud a chaniatad cynllunio amlinellol i ddatblygiad preswyl ar ddau ddarn o dir ger cartref yr achwynydd nad oeddynt wediu datblygu. Yn ol y gyfraith, dylair Cyngor benderfynu y ddau gais cynllunio yn unol ar cynllun datblygu os nad oedd ystyriaethau gwirioneddol eraill yn bodoli. Roedd y ddwy safle tu allan i ffin y pentref a nodwyd yn y Cynllun Lleol, ac wrth benderfynur ddwy gais, dylair Cyngor roi ystyriaeth i ddarpariaethaur Cynllun Lleol ar Cynllun Fframwaith ir perwyl y dylid gwrthod caniatad cynllunio, Roedd y Cyngor wedi gosod i lawr cynllun drafft newydd oedd yn awgrymu cynnwys y ddwy safle o fewn ffin y pentref cyfagos. Fodd bynnag, roedd y cynllun drafft o hyd yn agored i wrthwynebiadau, gan gynnwys y rheini oddi wrth yr achwynydd. Nid oedd y cynllun drafft eto wedi bod yn destun ymchwiliad cyhoeddus. Bu ir Cyngor eisoes wrthod caniatad cynllunio i ddatblygur ddwy safle ac yr oedd arolygwr yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cadarnhau gwrthodiad y Cyngor ym mis Tachwedd 1993. Wrth wneud hyn, dywedodd yr arolygwr y byddai datblygiad o un or safleoedd yn difethan llwyr cymeriad wledig brydferth (yn ardal), niweidio tirlun (y pentref) ac yn gwneud drwg i amcanion y polisiau cynllunio (yn y cynllun datblygu). Wrth ystyried y cefndir hyn, ar ffaith fod y Cyngor wedi gwrthod ceisiadau union yr un fath rhai misoedd yn gynharach, roedd yna dybiaeth gref yn erbyn rhoi caniatâd cynllunio. Ni osodwyd unrhyw dystiolaeth o flaen Is-Bwyllgor y Cyngor fod y cynigion yn cwympo o fewn unrhyw un or eithriadau ir dybiaeth yn erbyn datblygu a osodwyd yn y cynllun datblygu. Ystyriodd yr Ombwdsman fod penderfyniad y Cyngor i achub y blaen ar y broses statudol o ystyried newidiadau ir cynllun datblygu yn gyfystyr a chamweinyddu, o dan yr amgylchiadau. Hefyd, nid oedd gan Is-Bwyllgor y Cyngor awdurdod dirprwyedig i wneud y penderfyniad a arweiniodd at roi caniatad mewn un achos, a bu ir camgymeriad yna ychwanegu at y camweinyddu.

Roedd yr achwynydd, hefyd, wedi datgon ei bryder am ymddygiad un cynghorydd yn arbennig. Er ir cynghorydd ddatgan ei ddiddordeb personol yn natblygiad un or safleoedd, ac iddo adael cyfarfodydd lle roedd y safle hon wedi chael ei thrafod yn unol a gofyniad Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol, serch hynny, roedd wedi mynd efo aelodau o Is-Bwyllgor y Cyngor ar ymweliad i archwilior safle. Maer Cod Ymddygiad yn pwysleisio nad yw yn ddigon i osgoi amrhiodoldeb gwirioneddol. Dylai cynghorwyr ar bob achos osgoi unrhyw reswm am amheuaeth ac unrhyw olwg o ymddygiad amrhiodol. Dywedodd yr Ombwdsman nad oedd unrhyw gyfiawnhad i gynghorydd fynd efoi gyd-gynghorwyr ar ymweliad ffurfiol i safle oedd yn destun cais cynllunio lle roedd y cynghorydd wedi datgan diddordeb personol a phryd yr oedd y cynghorwyr yn ystyried a ddylai caniatad cynllunio i ddatblygu ei roi neu beidio. Nid oedd rhaid iddo weld y safle na mynd yno ar ymweliad er mwyn cario allan ei ddyletswyddau fel cynghorydd oherwydd yr oedd yn cael ei wahardd or broses o benderfynu ar y cais. Pe byddair cais wedi cael ei drafod mewn cyfarfod, byddai rhaid ir cynghorydd adael.

Roedd yr aelod ond yn creu amheuaeth osgoadwy ei fod yn ceisio, yn amhriodol, i ddylanwadu ar ei gyd-aelodau. Fodd bynnag, nid oedd tystiolaeth yn yr achos yma fod yr aelod wedi ceisio dylanwadu ar ei gyd-aelodau. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod yr aelod wedi torrir Cod Ymddygiad ond, o dan amgylchiadaur achos penodol hwn, penderfynodd y byddain annheg i enwir cynghorydd yn ei adroddiad.

Roedd yr Ombwdsman yn fodlon fod camweinyddur Cyngor wrth achub y blaen ar y broses statudol i ystyried newidiadau ir cynllun datblygu wedi achosi anghyfiawnder ir achwynydd oherwydd roedd wedi colli ei hawl i ddilyn ei wrthwynebiadau ir safleoedd ddod tu fewn ffin y pentref. Y feddyginiaeth addas o dan yr amgylchiadau oedd ir Cyngor wneud gorchmynion dirymiad i ddiddymur caniatadau cynllunio amlinellol i ddatblygur safleoedd. Mae haeddiannau cynllunio y fath orchmynion yn fater i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ond ni fydd gwneud y gorchmynion yn amddifadur datblygwyr ou cyfle i ddadlau eu hachos, as ni fydd y gorchmynion yn atal y Cyngor, maes o law, i gynnwys o fewn ei gynllun datblygu, gynigion i estyn ffin y pentref i gynnwys y safleoedd. Fodd bynnag, yn y fath achos, byddair achwynydd yn cael cyfle i ddilyn ei wrthwynebiadau. Argymhellodd yr Ombwdsman yn y modd yma.


24 Tachwedd 1999