![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL Gofal yn y Gymuned 99/0117/CM/210 - Cyngor Sir Gaerfyrddin Roedd rhan o gymorth y Cyngor, fel awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, am lys-ferch yr achwynydd a oedd yn anabl ac mewn oed yn cael ei ddarparu gan help teulu benywaidd wedii chyflogi gan y Cyngor, ac yr oedd yn edrych ar ol y ferch am ran or wythnos. Roedd yr achwynydd yn bryderus fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ddim yn barod, bellach, ir help teulu i edrych ar ol y ferch yng nghartref yr help teulu. Dywedodd fod y newidiadau ir trefniadau i ofalu am ei ferch wedii gwneud heb ystyried amgylchiadau penodol y ferch, ac eu bod wedi gwneud ei ferch yn anhapus. Roedd yr achwynydd yn cwynon arbennig fod y Cyngor wedi gwrthod dychwelyd ir trefniadau blaenorol er i Banel Adolygu annibynnol argymhell ir ferch gael treulio peth amser yng nghartref yr help teulu. Wrth ymateb ir gwyn, dywedodd y Cyngor fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyflwyno gwaharddiad ar staff i fynd a chleientiaid yr Adran iw cartrefi ei hun fel rhan oi bolisi wrth ddelio ag achosion honedig o gam-drin oedolion bregus. Er nad oedd cyfeiriad ym mholisi cyhoeddedig y Cyngor ar gam-driniaeth, i waharddiad ar gleientiaid y Gwasanaethau Cymdeithasol gael ei cludo i dai gweithwyr y Cyngor, roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn honni mai bwriad y polisi oedd ceisio osgoi i gleientiaid gael eu gosod mewn sefyllfa lle roeddent yn agored i ryw fath o gam-driniaeth. Dywedodd yr Ombwdsman fod haeddiannau penderfyniad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i wahardd staff fynd a chleientiaid yr Adran iw cartrefi ddim yn fater tu fewn iw swyddogaeth. Er hynny, roedd yn cydnabod y rhesymau cryf o blaid y fath bolisi. Fod bynnag,nid oedd yr Ombwdsman wedii argyhoeddi fod gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y ddirprwyaeth sylfaenol oddi wrth y Cyngor i gyflwynor gwaharddiad, neu a oedd y gwaharddiad yn rhan hanfodol o bolisir Cyngor ar y rheolaeth mewn achosion amheus o gam-drin oedolion. Hyd yn oed os dadleuwyd fod gan y Cyfarwyddwr yr awdurdod i gyflwynor fath bolisi, dylair mater fod wedi cael ei drosglwyddo yn hwyrach i Bwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor iw ystyried ac iw adolygu yn enwedig wrth gymryd i ystyriaeth argymhellion y Panel Adolygu annibynnol. Bu ir Panel Adolygu annibynnol ystyried cwyn y tad yn unol a threfn gyfreithiol cwynion yr Adran. Roedd wedi argymhell fod Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol yn adfer y trefniant lle roedd y ferch yn medru treulio peth amser yn nhyr help teulu fel y gwnaeth am sawl blwyddyn. Argymhellodd, hefyd, gan fod dyfodiad cynhwysfawr yn medru effeithion andwyol ar rai unigolion, y dylai ystyriaeth gael ei roi i wneud eithriadau os byddai amgylchiadau personol yn caniatau. Yn derfynol, roedd y Panel wedi mynegi pryder fod cynllun gofal y ferch ddim wedii adolygu yn flynyddol. Bu i argymhellion y Panel Adolygu, fodd bynnag, gael eu gwrthod gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad gan fod y gwyn yn ymwneud a phenderfyniad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, dylai argymhellion y Panel Adolygu annibynnol fod wediu cyfeirio at rywun arall, fel y Prif Weithredwr neu i Bwyllgor y Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn yr achos yma, roedd y gwyn yn ymwneud a phenderfyniad pwysig ar bolisir Cyngor a dylai argymhellion y Panel Adolygu, felly, fod wedi cael eu cyfeirio i Bwyllgor y Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, rhaid ir Cyngor sicrhau fod ei bolisiau ddim yn cael eu gweithredu mor anhyblyg heb fod ystyriaeth yn cael ei roi o gwbl i amgylchiadau penodol unigolyn a fyddai yn cael ei effeithion andwyol gan y polisi ac, hefyd, os dylai eithriad cael ei wneud yn achos yr unigolyn hynny. Roedd yr Ombwdsman yn bryderus, hefyd, na chafwyd adolygiad ffurfiol o anghenion y ferch ers mis Awst 1997. Roedd yn dra bwysig i adolygui anghenion o ystyried ei anhapusrwydd ar newidiadau yn y trefniadau ar ei chyfer. Hefyd, wrth ystyried effaith y newid polisi ar y ferch, dylair anghenion fod wedii adolygu cyn fod newidiadau yn y trefniadau wediu cyflwyno, a dylai ei rhieni fod wedi cael ymgynghoriad o flaen llaw. Ystyriodd yr Ombwdsman fod methiant i gymryd cyfarwyddyd oddi wrth y Pwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol cyn gyflwynor polisi i atal staff i fynd a chleientiaid iw cartrefi, ar methiant i gyflwyno argymhellion y Panel Adolygu i Bwyllgor y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gyfystyr a chamweinyddu. Roedd methiant i gymryd adolygiad ffurfiol o anghenion y ferch am dros ddwy flynedd er y newid polisi, ac er argymhellion y Panel Adolygu wedi ychwanegur camweinyddu. O ganlyniad ir camweinyddu, bu ir achwynydd ddioddef anghyfiawnder gan fod y gwyn heb ei thrin yn resymol gan y Cyngor. Y feddyginiaeth addas am yr anghyfiawnder oedd ir Pwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol ystyried argymhellion y Panel Adolygu, a dyna dywedodd yr Ombwdsman. Gofynnodd yr Ombwdsman, hefyd, ir Cyngor i adolygui bolisi i staff fynd a chleientiaid iw cartrefi fel a gyflwynwyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn sicrhau fod ystyriaeth teilwng yn cael ei roi i wneud eithriadau mewn amgylchiadau unigol ller roedd y fath eithriad yn haeddiannol. Gofynnodd ir Cyngor, hefyd, i sicrhau fod anghenion arbennig y ferch yn cael eu hadolygu heb unrhyw oedi pellach. |
||
01 Tachwedd 1999 |
|||