Ymchwiliadau

COFRESTRIAD ETHOLIADOL

99/0092/CM/207 - Cyngor Sir Gaerfyrddin

Roedd yr achwynwyr yn cwyno fod Swyddog Cofrestri Etholiadol dros Gyngor Sir Gaerfyrddin heb gynnwys eu henwau ar y cofrestr etholiadol oedd yn bodoli yn ystod yr etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn mis Mai 1999. Oherwydd y diffyg yma, roedd yr achwynwyr wedi methu pleidleisio yn yr etholiad yma. Maer dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad yn cefnogi barn y Cyngor Sir mair prif reswm dros adael enwaur achwynwyr au ty allan or cofrestr etholiadol oedd am fod y cyn-berchennog wedi newid enwr ty ar y ffurflen gofrestri etholiadol a anfonwyd ir ty gan y Cyngor Sir i enwr ty newydd oedd yn cael ei adeiladu dros nesaf gan y cyn-berchennog. Dychwelodd y cyn-berchennog y ffurflen ddiwygiedig hon ir Cyngor Sir. Bu ir swyddfa gofrestri etholiadol, felly, gredu fod y cyn-ddeiliaid yn parhau i fyw yn nhyr achwynwyr, au bod wedi newid enwr ty yn unig. Felly, roedd unrhyw gyfeiriad i dyr achwynwyr o dan yr enw gwreiddiol wedii ddileu or cofrestr, er ei fod yno o hyd, a chafodd y ty newydd ei gynnwys ar y grediniaeth mai enw newydd tyr achwynwyr oedd er, mewn gwirionedd, ty newydd oedd.

Fodd bynnag, daeth y Comisiynydd ir canlyniad y byddai system ganfasio mwy trwyadl wedi darganfod y gwall. Er enghraifft, byddai canfasio o ddrws-i-ddrws ym mis Hydref 1996 wedi dangos fod ty newydd yn cael ei adeiladu drws nesaf i dyr achwynwyr. Byddai archwiliad o gofnodion adeiladur Cyngor Sir wedi dangos, ar 10 Hydref 1996, fod waliaur ty newydd yn cael eu hadeiladu. Byddai archwiliad o gofnodion cynllunio a threth y Cyngor erbyn mis Hydref 1998, hefyd, wedi dangos fod ty newydd wedii adeiladu ar y stad fechan lle roedd yr achwynydd yn byw. Wrth ystyried natur rhan-drefol yr ardal etholedig, byddai canfasio o ddrws-i-ddrws wedi bod yn addas. Er fod diffyg canfasio o ddrws-i-ddrws ar ddechraur broses o gyfansoddi cofrestr ddim ynddoi hun yn gyfystyr a chamweinyddu, fodd bynnag, pan for methiant yna yn cael ei gwpli yn yr achos yma efor methiant i ddatgelu bodolaeth ty newydd drwy ddefnyddio cofnodion y Cyngor Sir ei hun, maer methiannau cynyddol yn gyfystyr â chamweinyddu ar ran y Cyngor Sir. Er nad y camweinyddu oedd prif achos y camgymeriad yn y cofrestr, roedd wedi cyfrannu yn sylweddol ir methiant i ddarganfod y gwall.

O ganlyniad ir camweinyddu, ni fedrodd yr achwynydd bleidleisio yn etholiadaur Cynulliad yn mis Mai 1999 ac roedd hyn wedi achosi anghyfiawnder iddo. Ni all yr anghyfiawnder yma ei feddyginiaethu yn awr, ond maer cofrestr etholiadol eisoes wedi cael ei gywiro er mwyn y dyfodol ac mae enwaur achwynwyr ynddo yn awr fel deiliaid eu ty. Er mwyn osgoi dychweliad y camweinyddu ar anghyfiawnder, argymhellodd yr Ombwdsman y dylair Cyngor adolygui systemau canfasio er mwyn sicrhau fod archwiliad manwl o gofnodion y Cyngor yn cael ei wneud yn y dyfodol, ac hefyd gyda golwg i gyflwyno canfasio drws-i-ddrws o leiaf yn yr ardal bleidleisio lle maer achwynwyr yn byw ac mewn ardaloedd pleidleisio tebyg.


19 Hydref 1999