![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
TAI Cyfaddasiadau i'r Anabl 99/0008/R/180 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taff Cwynodd yr achwynydd, sydd yn denant ty Cyngor, am oedi ar ran y Cyngor cyn cyfaddasu ac eangu ei thy er mwyn iw mab dall i gael ystafell wely ar wahan fel yr argymhellwyd gan weithwyr cymdeithasol a therapydd galwedigaethol. Roedd y mab dall, hefyd, yn dioddef o anhawster dysgu difrifol ac nid oedd yn medru cysgu yn hawdd. Arhosai yn effro yn y nos yn aml gan siarad ac amharu ar gwsg ei frawd (ei efaill) a oedd yn rhannu ystafell gydag ef. Roedd ei ymddygiad yn cael effaith niweidiol ar ei frawd ac oedd wedi achosi ymddygiad y brawd i ddirywio. Dywedodd seiciatrydd ymgynghorol plant fod hyn wedi digwydd oherwydd diffyg cwsg. Ar 12 Mai 1997, bu i weithiwr cymdeithasol y teulu ofyn am asesiad o anghenion y mab dall er mwyn ceisio cael ystafell wely ei hun iddo. Ar 20 Awst 1997, bu ir therapydd galwedigaethol argymhell gwaith cyfaddasu oedd yn cynnwys gosod ystafell wely/stydi ddi-swn ar wahan. Trosglwyddwyd yr argymhelliad ei Adran Tai y Cyngor ar 16 Medi 1997. Fodd bynnag, ni ddechreuwyd ar y gwaith tan 27 Ebrill 1999 ac ni orffennwyd y gwaith tan 9 Awst 1999, dros ddwy flynedd ar ol ir gweithiwr cymdeithasol wneud ei hargymhellion. Roedd oedi o fewn Adran Tai y Cyngor ar Uned Eiddo Ymgynghorol wedi cyfrannun helaeth ir oedi. Cymerodd ddau fis ir Adran Dai i ddweud wrth Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn cael trafferth i ddarllen ysgrifen y therapydd galwedigaethol. Ni ofynnwyd ir Uned Ymgynghorol i wneud cynllun hyd bedwar mis ar ol ir Adran Dai dderbyn argymhellion Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol. Cymerodd naw mis yn ychwanegol i gwblhaur cynllun, a chymerodd dros fis hyd yn oed i agor yr unig gynnig a dderbyniwyd, sef yr un a gyflwynwyd gan Uned Gwaith Uniongyrchol y Cyngor. Nid oedd unrhyw dystiolaeth ar gael fod y gwaith yn cael ei gyfarwyddo neu ei gydraddoli, yn briodol. Roedd pob rhan or broses fel petai yn dilyn ar wahan heb unrhyw feddwl am y rhaglen gyfan ar dyletswydd i ymateb i anghenion mab anabl yr achwynydd. Penderfynodd yr Ombwdsman fod yr oedi, yn enwedig wrth ystyried brys y gwaith, mor afresymol a bod yn gyfystyr a chamweinyddu. Cwblhawyd y gwaith cyn i adroddiad yr Ombwdsman gael ei chyhoeddi, ac yr oedd yr achwynydd yn bles iawn ar adnoddau newydd a roddwyd gan y Cyngor, ond roedd ei mab wedi bod heb y rhain am fwy o amser na ddylai, ac roedd yr achwynydd wedi gorfod ymdopi a phroblemau ei mab am fwy o amser nag oedd yn rhesymol. Gofynnodd yr Ombwdsman ir Cyngor i dalu £500 ir achwynydd fel meddyginiaeth am yr anghyfiawnder a ddioddefodd. Maer Cyngor eisoes wedi cymryd camau i osgoir camweinyddu i ddigwydd eto gan apwyntio swyddog penodedig yn yr Adran Dai i arwain y fath brosiectau yn y dyfodol drwy ddarparu un pwynt canolog i denantiaid. |
||
30 Medi 1999 |
|||