Ymchwiliadau

CYNLLUNIO

Gorfodaeth

2001/0475/CY/265 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - Cynllunio

Roedd yr achwynydd yn byw ar ystad dai fechan ac roedd wedi cwyno wrth yr Ombwdsmon bod y Cyngor, sef yr awdurdod cynllunio lleol, wedi methu ag arolygu gwaith adeiladu a wnaed ar yr ystad a thrwy hynny alluogi ir adeiladwr ddiystyrur cynlluniau a gymeradwywyd. Cafodd yr Ombwdsmon y bu nifer o ddiffygion gweinyddol. Yn benodol, roedd y caniatâd cynllunio ar gyfer datblygur ystad yn ei gwneud yn ofynnol ir adeiladwr gyflwyno cynigion manwl gerbron y Cyngor yn esbonio sut y bwriedid ailosod y mynediad presennol i gerbydau dros y llwybr troed ir tai a thirlunior safle. Nid oedd unrhyw ddatblygiad i fod i ddigwydd hyd nes yr oedd y Cyngor wedi rhoi sel ei fendith ar gynlluniau or fath. Ni chyflwynwyd cynlluniau or fath, ond serch hynny ni chymerodd y Cyngor unrhyw gamau gweithredu. Ni allai swyddogion egluro pam nad oeddent wedi gofyn am gynlluniau or fath. Bu oedi hir hefyd cyn adeiladur ffordd i gerbydau at dy newydd yr achwynydd.

Fodd bynnag, cafodd yr Ombwdsmon hefyd fod yr achwynydd wedi cymysgu rhwng cyfrifoldebaur Cyngor fel awdurdod cynllunio lleol, cyfrifoldebau ei adeiladwr iddo ef yn ôl amodau ei gytundeb ar adeiladwr, a chyfrifoldebaur achwynydd ei hun fel prynwr ac fel perchennog yr eiddo. Cafodd rhai or achosion o dor caniatad cynllunio y bu ir achwynydd gwyno amdanynt eu hachosi gan newidiadau ir datblygiad cymeradwy y gofynnodd yr achwynydd ei hun ir adeiladwr eu gwneud. Fe eglurodd yr Ombwdsmon nad yw awdurdod cynllunio lleol yn gweithredu fel clerc y gwaith ar ran prynwr neu berchennog ty, ac nad oes ganddo swyddogaeth arolygu adeiladwr yn y ffordd yr oedd yr achwynydd yn ol pob golwg yn meddwl. Cyfrifoldeb yr achwynydd, fel prynwr a pherchennog tir, oedd sicrhau bod yr adeiladwr yn cydymffurfio ag amodau ei gytundeb, ac roedd yn rhaid iddo ddibynnu ar ei ymgynghorwyr proffesiynol ei hun iw gynorthwyo gydar gorchwyl hwnnw.

Serch hynny, roedd yr Ombwdsmon yn cytuno bod y camweinyddu wedi achosi rhywfaint o anghyfiawnder ir achwynydd, ac fe awgrymodd y dylair Cyngor dalu £500 iddo. Fe awgrymodd yr Ombwdsmon hefyd y dylair Cyngor adolygu ei weithdrefnau rheoli datblygu yn gyffredinol i ymorol yn arbennig am yr angen am gyswllt da rhwng swyddogion rheoli datblygu a swyddogion gorfodaeth rheoli, yn ogystal ar angen i sicrhau nad yw gwaith datblygun cychwyn heb roi sel bendith yn gyntaf i gynlluniau syn ofynnol yn ol amod mewn caniatad cynllunio.


06 Awst 2002