Ymchwiliadau

CYNLLUNIO

Caniatad

2001/0669/AC/305 & 2001/0706/AC/308 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Roedd a wnelor gwyn a methiant ar ran y Cyngor i ddod i benderfyniad ynglŷn â chais a dderbyniodd gan gwmni ffonau symudol am sel bendith ymlaen llaw i godi mast telathrebu ar dir gerllaw cartrefir achwynwyr o fewn y cyfnod statudol o ddeugain a dau o ddiwrnodau a ganiateir ar gyfer dod i benderfyniad ynglyn a cheisiadau or fath, a thrwy hynny alluogi ir cwmni ymelwa o ganiatad cynllunio y gellir ystyried yn ol y gyfraith iddo gael ei roi yn herwydd diffyg or fath. Roedd un or achwynwyr yn gwisgo rheolydd calon, a honnai y byddai pelydriadau microdon a ollyngid or mast yn peryglu ei iechyd. Honnair achwynwyr eraill y cair datblygiad effaith niweidiol ar y golygfeydd ou cartref.

Cydnabur Cyngor wrth yr Ombwdsmon iddo fethu a hysbysur cwmni a wnaeth y cais o fewn y terfynau amser statudol ei fod wedi penderfynu gwrthod cais yr ymgeisydd am sel bendith ymlaen llaw ar y mast. O ganlyniad, ni chafodd penderfyniad y Cyngor i wrthod rhoi cymeradwyaeth or fath unrhyw effaith, ac felly ystyriwyd fod yr ymgeisydd wedi cael cydsyniad i godir mast a godwyd yn unol a hynny. Daeth yr Ombwdsmon ir casgliad bod methiant y Cyngor i hysbysur ymgeisydd mewn pryd yn gyfystyr a chamweinyddu.

Wrth ystyried a oedd y camweinyddu wedi achosi anghyfiawnder ir achwynwyr, fe ddywedodd yr Ombwdsmon y byddai gan yr ymgeisydd hawl i apelio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hyd yn oed pe bair Cyngor wedi ei hysbysu ynghylch y gwrthodiad o fewn y terfynau amser syn ofynnol. Nid oedd yr Ombwdsmon yn argyhoeddedig y byddai cais or fath gan yr ymgeisydd wedi cael ei wrthod o ystyried cynnwys canllawiaur llywodraeth ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol yng nghyswllt ceisiadau or fath. Felly, ni allai ddod ir casgliad na fyddair mast wedi cael ei godi oni bai am gamgymeriad y Cyngor. Sut bynnag, ni allai ddod ir casgliad bod y mast yn peryglu iechyd un achwynydd. Roedd y canllawiau perthnasol gan y llywodraeth ar y pryd yn nodi na ddylai (mastiau telathrebu) greu perygl mawr i iechyd. Ar ben hynny, roedd tair achwynwyr ar un ochr prif linell reilffordd tra bod y mast ar ystad ddiwydiannol ar yr ochr arall, o leiaf 50 i 60 metr i ffwrdd. Felly, nid oedd yr Ombwdsmon wedii argyhoeddi bod canlyniadau presenoldeb y mast ynddynt eu hunain yn gyfystyr a chamweinyddu. Serch hynny, roedd yn cytuno bod yr achwynwyr wedi dioddef rhywfaint o gamweinyddu yn yr ystyr eu bod yn teimlo iddynt ddioddef cam au bod or farn y gallair canlyniad fod wedi bod yn wahanol oni bai am gamgymeriad y Cyngor. Awgrymodd y dylair Cyngor dalu £250 i bob un or achwynwyr, a gofynnodd ir Cyngor adolygu ac, os oes angen, newid ei drefniadau ai weithdrefnau gweinyddol yng nghyswllt rhoi sel bendith ymlaen llaw ar geisiadau.


02 Awst 2002