Ymchwiliadau

CYNLLUNIO

Gorfodaeth

2001/0797/PE/230 - Cyngor Sir Penfro

Roedd yr achwynydd wedi cael caniatâd cynllunio gan y Cyngor ym 1997 i droi eiddon ddwy uned o lety preswyl ar yr amod bod y fynedfa ir eiddo or ochr yn cael ei gadael yn agored, yn rhydd rhag gatiau. Ym 1999 roedd swyddog or Cyngor wedi ysgrifennu at yr achwynydd i ddweud y byddain caniatau ir achwynydd osod gatiau o flaen y fynedfa er gwaethaf yr amod ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio. Fe gwynodd yr achwynydd wrth yr Ombwdsmon gan ddweud ei fod wedi gosod y gatiau maes o law gan ddibynnu ar yr hyn a ddywedodd swyddog y Cyngor yn ei lythyr ond er gwaethaf hynny roedd swyddog uwch yn y Cyngor wedi anfon llythyr pellach ato ym mis Awst 2000 i ddweud wrtho bod yr amod gwreiddiol yn dal i fod mewn grym,.

Roedd y Cyngor wedi cydnabod bod y swyddog a roesair caniatad i osod y gatiau wedi mynd y tu hwnt iw awdurdod. Fe ddaeth yr Ombwdsmon ir casgliad bod camgymeriad y swyddog ai lythyr camarweiniol at yr achwynydd yn gyfystyr a chamweinyddu. Bu camweinyddu pellach gan y Cyngor o ganlyniad i oedi ar ran y Cyngor rhwng mis Awst 1999 a mis Awst 2000 cyn cynghori ir achwynydd ynghylch ffyrdd derbyniol o osod y gatiau

Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn fodlon bod y camweinyddu wedi achosi anghyfiawnder ir achwynydd am iddo ddibynnu ar yr hyn a ddywedodd y swyddog wrtho wrth wario ar osod gatiau a oedd yn dal i fod heb ganiatad. Fe awgrymodd yr Ombwdsmon y dylair Cyngor ymddiheuro am ei gamweinyddu a chynnig gwneud y canlynol:

(a) hepgor unrhyw dal syn ddyledus wrth gyflwyno ceisiadau os bydd yr achwynydd yn cyflwyno cais am ganiatad cynllunio o fewn tri mis i gyhoeddi adroddiad yr Ombwdsmon i waredur amod cynllunio a gosod y gatiau,

(b) talu swm (heb fod yn fwy na £1,200) sydd yr un faint ar gost (fel a ddangosir gan dderbynebion) o brynu, gosod a thynnur gatiau os gwrthodir caniatad cynllunio neu os bydd y Cyngor yn cymryd camau gorfodi yn erbyn yr achwynydd yng nghyswllt y gatiau,

(c) talu swm pellach o £250 ir achwynydd yn gydnabyddiaeth am ei amser ai drafferth wrth orfod canlyn arni ai gwyn gydar Cyngor ar Ombwdsmon.


31 Gorffennaf 2002