![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
CYNLLUNIO Gorfodaeth 2001/0075/CY/245 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - Cynllunio Roedd a wnelor gwyn hon ag oedi ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili cyn cymryd camau gorfodi effeithiol i roi terfyn ar yr hyn a oedd yn ol honiad yr achwynydd yn weithrediad masnachol a oedd yn cael ei gynnal o garej domestig ei gymydog i atgyweirio cerbydau au chwistrellu a phaent, gan dorri rheolau cynllunio. Honnodd fod y gweithgarwch heb awdurdod yn niwsans ai fod yn cael effaith niweidiol ar ei iechyd ai fwynderau. Yn ei ymateb ffurfiol cyntaf ir gwyn a baratowyd gan y swyddog achos cynllunio a oedd yn gyfrifol am ymchwilio i bryderon yr achwynydd, fe honnodd y Cyngor fod rhybudd tor rheolau cynllunio wedi cael ei gyflwyno ir cymydog, a bod camau gorfodi wedi cael eu cymryd yn dilyn cyflwynor cyfryw rybudd. Cafodd yr Ombwdsmon nar cyfwynydd unrhyw rybuddion mewn gwirionedd ac na chymerwyd unrhyw gamau gorfodi. Mewn cyfweliad fe gyfaddefodd y swyddog achos na chyflwynodd unrhyw rybuddion er ei fod wedi honni iddo wneud hynny. Fe gyfaddefodd ei fod wedi camarwain yr Ombwdsmon, ymchwilwyr yr Ombwdsmon, aelodau a swyddogion y Cyngor yn ogystal ar achwynydd. Fe gyfaddefodd iddo ffugio llofnod uwch-swyddog ar rybuddion statudol heb yn wybod ir swyddog hwnnw, ai fod wedi gwneud honiadau ffug ynglyn ar camau a gymerasai. Roedd yr Ombwdsmon yn ystyried bod gweithredoedd y swyddog achos yn gyfystyr â chamweinyddu gan y Cyngor, ac fe ddywedodd fod yn rhaid ir Cyngor gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a wnaethair swyddog ar hyn a fethasai ei wneud. Roedd y Cyngor eisoes wedi cychwyn camau disgyblu yn erbyn y swyddog cyn iddo ymddiswyddo oi swydd yn y Cyngor. Cydnabur Ombwdsmon na fyddair twyll tra gofalus ar ran y swyddog wedi bod yn hollol amlwg. Fodd bynnag, roedd yn ei chael yn anfoddhaol iawn bod ymateb ffurfiol y Cyngor iw gais cyntaf am wybodaeth ai gais am ymateb ffurfiol y Cyngor ir gwyn wedi cael eu ddarparu gan y swyddog achos ei hun heb ir ymateb gael ei wirio gan uwch-swyddog. Cafodd y swyddog achos rwydd hynt i barhau ai ffugio am fisoedd lawer, ac oni bai am ddyfalbarhad a chwilota ar ran ymchwilwyr yr Ombwdsmon ni fyddair gwirionedd wedi dod ir fei fel a ddigwyddodd yn y pen draw. Fe ddywedodd yr Ombwdsmon na wnaeth methiant uwch-swyddogion i wirio esboniadaur swyddog achos ond gwaethygur camweinyddu a oedd yn deillio o ddichell y swyddog hwnnw. Bu ir Cyngor ymddwyn yn briodol unwaith y daeth y gwirionedd ir fei, ac roedd wedi ymchwilion drylwyr i weithgarwch y cymydog cyn ir Ombwdsmon gwblhau ei ymchwiliad. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y camau a gymerodd y Cyngor yn y diwedd mewn ymateb i bryderon yr achwynydd eisoes wedi gwneud iawn yn rhannol am yr anghyfiawnder a achoswyd ir achwynydd ai wraig o ganlyniad ir camweinyddu. Serch hynny, awgrymodd yr Ombwdsmon hefyd y dylair Cyngor dalu £2000 ir achwynydd er mwyn unionir cam ymhellach. Yn ogystal fe argymhellodd y dylair Cyngor adolygu ei drefniadau gweinyddol, a chyflwyno system i arolygu achosion yn ymwneud a rheolaeth cynllunio yn rheolaidd ac yn fynych. |
||
10 Gorffennaf 2002 |
|||