![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
TIR Ail-osod modurdai a gofodd eu dymchwel 2001/0476/BL/142 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent - Tir Roedd y pum achwynydd yn honni fod y Cyngor wedi methu cadw ei addewid iddynt gael modurdai preifat i barciou ceir or un faint ar garejis a gafodd ei dymchwel er mwyn i feddygfa newydd gael ei adeiladu yn unol a chytundeb rhwng y doctoriaid ar Cyngor. Darganfuodd yr Ombwdsman fod yr achwynwyr wedii trafod gan y Cyngor fel tenantiaid (am rai blynyddoedd) o dir Cyngor lle adeiladwyd garejys, er mai dim ond dau or achwynwyr oedd wedi llunio cytundeb tenantiaeth ffurfiol efor Cyngor. Roedd y cytundebau hynny yn caniatáu ir Cyngor derfynur denantiaeth efo rhybudd o chwe mis, neu o un mis o rybudd os oedd eisiaur tir er mwyn adeiladu tai neu i osod heol newydd. Roedd y tir ble adeiladwyd y garejis wedii werthu i ddoctoriaid lleol er mwyn iddynt ei ddatblygu fel meddygfa newydd. Roedd y doctoriaid wedi cytuno âr Cyngor i ailleolir garejis oedd iw dymchwel. Adeiladwyd garejis newydd ar dir cyfagos, ond roedd y rhain yn llai eu maint nar rhai gwreiddiol gydar canlyniad nad oedd rhai or achwynwyr yn medruu defnyddio i barciou ceir. Roedd y Cyngor yn beior doctoriaid am y camddealltwriaeth yma, ac wedi dweud wrth yr achwynwyr y dylsent ddilyn y mater efor doctoriaid. Fodd bynnag, dywedodd yr Ombwdsman na allair Cyngor osgoi ei gyfrifoldeb yn y cyswllt yma, hyd yn oed pe byddair Cyngor yn medru rhoir cyfrifoldeb ar ysgwyddaur doctoriaid ynglyn a methiant i gyflawnir cytundebau. Roedd y Cyngor wedi bwriadu, ar ôl ir garejis gael eu dymchwel, iw ail-osod efo garejis or un faint ac ir un defnydd ar garejis gwreiddiol. Bu i sawl pwyllgor dros saith mlynedd wneud addewid i ddeiliaid y garejis y byddent yn cael eu hail-osod. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod hawl gan yr achwynwyr i gredu, yn absenoldeb unrhyw rybudd ysgrifenedig ffurfiol oddi wrth y Cyngor, y byddair Cyngor yn sicrhau fod yna fodurdai newydd ac addas ar gael iddynt. Efallai fod y doctoriaid wedi gweithredu fel asiantau yn y mater yma, ond roedd y dyletswydd pennaf ar y Cyngor. Os oedd y Cyngor am lynu at dermaur cytundeb tenantiaeth, dylai fod wedi gwneud hyn yn glir, a dylai fod wedi gosod rhybudd ffurfiol ac ysgrifenedig ar bob tenant fel yr argymhellwyd gan swyddogion y Cyngor. Wrth ddweud wrth yr achwynwyr y byddair garejis yn cael eu hail-osod, bu ir Cyngor fethu sicrhau fod garejis or un faint yn cael eu darparu iddynt. Darganfuodd yr Ombwdsman fod camweinyddu ar ran y Cyngor yn y ffordd yr oedd wedi gadael ir garejis gael eu dymchwel, ac yn y ffordd roedd wedi methu sicrhau fod yna fodurdai newydd or un faint ar gael ir achwynwyr. Er hynny, nid oedd yr Ombwdsman yn fodlon fod pob un or achwynwyr wedi dioddef anghyfiawnder o ganlyniad ir camweinyddu, oedd eisiau meddyginiaeth gan y Cyngor. Roedd gan yr achwynwr cyntaf fodurdy arall i barcioi gar a chydnabuodd os byddair garej ail-osod or maint rhesymol, yna y byddai i wedii gwerthu yn groes i gytundebau tenantiaeth y Cyngor yn ymwneud ag is-brydlesi. Ni ddalodd yr ail achwynydd unrhyw rent ir Cyngor ac yr oedd, fodd bynnag, yn defnyddio garej ei thadcu i barcioi char. Roedd y trydydd achwynydd, hefyd, yn berchen garej arall ac yn ei defnyddio i barcioi gar. Rhoddodd y garej ail-osod iw fab yn groes i dermau cytundeb tenantiaeth y Cyngor. Nid oedd car gan y pedwerydd achwynydd ac roedd wedi cytuno gwerthur garej ail-osod am £1500.00 er yn groes ir cytundeb tenantiaeth. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsman yn fodlon fod y pumed achwynydd wedi dioddef anghyfiawnder oedd eisiau ei unioni. Daeth i gytundeb tenantiaeth ffurfiol efor Cyngor ym 1985 ac wedi talu rhent ir Cyngor trwy gydol ei denantiaeth. Gan fod y garej newydd ddim yn dderbyniol nac yn addas, roedd wedi parcioi gerbyd ar stad ddiwydiannol ac yr oedd yn rhaid iddo gael ei yrru yno er mwyn casglui fan i fynd iw waith. Mi fedrau gerdded ir modurdy gwreiddiol oi gartref i gasglur fan. Argrymhellodd yr Ombwdsman y dylair Cyngor osod garej addas iddo oedd yn dderbyniol yn yr ardal ller oedd yn byw. Dylai fod yn gyfleus iddo i barcioi fan. Os nad oedd hyn yn bosibl, dylair Cyngor dalu £300.00 iddo am yr anghyfleustra a ddioddefodd. Roedd yr Ombwdsman yn bryderus, hefyd, am beth oedd yn ymddangos iddo fod yn farchnad ddu sylweddol mewn gwerthiant modurdai preifat or fath o fewn y Fwrdeistref oedd yn anawdurdodedig. Wrth ystyried fod gan y Cyngor 1,104 o fodurdai oedd yn cael eu gosod i denantiaid, ac wrth feddwl am y gwaharddiad arferol mewn cytundebau tenantiaeth ar ddosraniad ac is-brydlesu, argymhellodd ir Cyngor i gymryd archwiliad manwl a thrylwyr oi fodurdai er mwyn penderfynu pwy oedd yn defnyddior modurdai yna, ac os oedd y bobl hynny yn talur rhent oedd yn daladwy ir Cyngor. Dywedodd, yng ngoleunir archwiliad hynny, dylair Cyngor sicrhau fod pob tenant or modurdai yn deall ac yn ran o gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig ffurfiol oedd yn adlewyrchun gywir natur deiliad y tenant ai ddefnydd or modurdy, ac yn cofnodii ddeiliad mewn termau manwl. Dywedodd y dylai cofnodion y Cyngor gael eu diweddaru yn llawn. |
||
03 Mai 2002 |
|||