![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
ADDYSG Apel mynediad ysgolion 99/0228/A01/000 & 99/0288/A01/001 - Pwyllgor Apel, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi, Caerdydd Maer adroddiad yn delio a dwy gwyn oddi wrth rieni am benderfyniad Pwyllgor Apêl oedd wedi gwrthod eu apêl yn erbyn gwrthodiad y Corff Llywodraethol i roi lle iw plant yn yr ysgol. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod yna lawer o ddiffygion sylfaenol yn y trefniadau a wnaethpwyd i wrando apeliadaur achwynwyr ac yn y ffordd y bu ir apeliadau gael eu penderfynu. Ni sefydlwyd y Pwyllgor Apêl yn y ffordd iawn. Roedd un or tri aelod a apwyntiwyd fel aelod lleyg yn anghymwys o dan ddarpariaethaur Ddeddf Addysg, 1996, oherwydd, cyn ei hymddeoliad roedd wedi bod yn athrawes ac, hefyd, bu yn lywodraethwraig or ysgol oedd yn destun or apêl. Maer gyfraith yn gofyn i Bwyllgor Apêl i gynnwys o leiaf dri aelod cymwysedig ond dim ond dau oedd yn bodoli yn yr achos yma. Nid oedd y Pwyllgor Apêl, felly, wedii sefydlun gywir ac nid oedd yn gymwysedig i wneud unrhyw benderfyniad yng nghyswllt apeliadaur achwynwyr. Roedd yna fethiannau eraill, hefyd, a thoriadau yng nghanllawiaur Llywodraeth yn y trefniadau a wnaethpwyd ir apeliadau ac yng ngweithgareddaur apeliadau eu hunain. Roeddynt yn cynnwys y canlynol:- (a) Bu i achos y Corff Llywodraethol ei ddanfon ir achwynwyr ond pedwar diwrnod cyn y gwrandawiad, er y dylai pob gohebiaeth gael ei anfon ir rhieni o leiaf wythnos o flaen y gwrandawiad. (b) Ni chafodd y Cyngor dros y Tribiwnlysoedd wybodaeth or apeliadau. (c) Nid oedd clerc gan y Pwyllgor Apêl i helpur aelodau i reolir gweithgaredd. (d) Nid oedd cofnodion ysgrifenedig or gweithgaredd wedii cadw. (e) Roedd hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniadaur Pwyllgor Apêl ddim yn gosod rhesymau dros y penderfyniadau. (f) Ni fedrai aelodaur Pwyllgor Apêl egluro paham fod apeliadau rhai rhieni wedi cael eu caniatau, er fod rhai eraill yn yr un dosbarth blaenoriaethol wedii gwrthod. (g) Nid oedd dau aelod or Pwyllgor Apêl yn ymwybodol or ddau gam y dylair apêl fynd drwyddi. (h) Roedd yn debygol ir aelodau dderbyn achos yr ysgol y byddai yna anfantais i effeithlonrwydd addysg yn yr ysgol os byddair apeliadau yn cael eu caniatau, heb ir ysgol orfod cyfiawnhaur honiad hynny. Gwnaethant hyn er cyngor penodol yng nghanllawiaur Llywodraeth syn gofyn i ysgol gyfiawnhau ei safbwynt a thystiolaeth ategol. Roedd yr Ombwdsman yn bryderus, hefyd, fod y Llywodraethwr oedd yn cyflwyno achos yr ysgol i wrthod yr apeliadau, mewn llythyr ir rhieni, wediu cyfyngu i ddeg munud i osod ei achosion personol. Hefyd roedd datganiad gan un o aelodaur Pwyllgor Apêl ei bod hi ac aelodau arall or Pwyllgor Apêl wedi bod yng nghwmni Llywodraethwr ar Prifathro (ar eu pen eu hun) cyn ir apêl gyntaf iw glywed yn peri gofid ir Ombwdsman. Roedd, maen debyg, wedi derbyn ateb y Prifathro fod yr ysgol eisoes yn llawn. Dywedodd dau aelod arall or Pwyllgor Apêl na chawsant unrhyw hyfforddiant yng ngweithredoedd Pwyllgorau Apêl, ac nid oeddynt yn ymwybodol o ganllawiaur Llywodraeth. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod methiannaur Pwyllgor Apêl yn gamweinyddu. Roedd, hefyd, yn fodlon fod y camweinyddu wedi achosi anghyfiawnder ir achwynwyr oherwydd iddynt golli eu hawl i glywed eu apeliadau ac i gael dyfarniad yn unol a chanllawiaur Llywodraeth ac egwyddorion gweinyddiaeth da. Y feddyginiaeth berthnasol oedd ail-wrandawiad o apeliadaur achwynwyr gan Bwyllgor Apel arall a sefydlwyd yn wahanol. Fodd bynnag, dywedodd un or achwynwyr na fyddai bellach yn derbyn lle yn yr ysgol iw fab hyd yn oed pe cynigiwyd lle iddo. Ni fyddai unrhyw bwrpas, felly, i gael gwrandawiad newydd yn ei achos ef. Argymhellodd yr Ombwdsman yr dylair achwynydd arall gael y cyfle i apelio eto yn erbyn gwrthodiad lle yn yr ysgol iw ferch, ac y dylair apêl gael ei glywed gan Bwyllgor Apêl newydd cyn gynted a phosibl. Dywedodd yr Ombwdsman nad oedd yna dystiolaeth i awgrymu fod aelodau or Pwyllgor Apêl wedi gweithredur apeliadau ond mewn ewyllys da, a chan gredu fod eu penderfyniadau ym mudd gorau yr ysgol ar plant oedd yno yn barod. Yn ol yr Ombwdsman, roedd eu tasg yn un anodd, a dyna paham ei bod yn bwysig i bob aelod or Pwyllgor Apêl i dderbyn hyfforddiant digonol ac i gael cynhorthwy gan clerc profiadol sydd a gwybodaeth da a dealltwriaeth or rheolau perthnasol ar cod ymarfer. Argymhellodd y dylair Pwyllgor Apêl ofyn ir awdurdod addysg lleol os medrai gynnig y fath hyfforddiant a chaniatau gwasanaeth clerc profiadol. |
||
29 Medi 1999 |
|||