Ymchwiliadau

TAI

Budd-Daliadau

2001/0549/DE/165 - Cyngor Sir Ddinbych - Tai

Bu ir achwynydd gwyno am oedi afresymol ar ran y Cyngor cyn penderfynu cais am fudd-dal tai. Gwnaeth yr achwynydd gais am fudd-dal tai ar 10 Mawrth 2001, ond ni chymerwyd unrhyw weithred gan y Cyngor i brosesir cais tan 19 Ebrill 2001 er fod y rheolau cysylltiedig yn gofyn iddo i benderfynu cais o fewn pythefnos, ac yna, hyd yn oed, dim ond gofyn am ragor o wybodaeth am amgylchiadaur achwynydd wnaeth y Cyngor. Ni roddodd yr achwynydd y gwybodaeth ychwanegol ir Cyngor, ac felly, penderfynodd y Cyngor i beidio prosesir cais ymhellach. Darganfuodd yr achwynydd le arall i fyw.

Ar 1 Medi 2001, cyflwynodd yr achwynydd gais am fudd-dal tai yng nghyswllt ei gartref newydd. Ni ysgrifennodd y Cyngor ir achwynydd tan 19 Hydref 2001 pan ofynnodd iddo am ragor o wybodaeth. Methodd yr achwynydd gyflwyno gwybodaeth angenrheidiol ir Cyngor, ond cafodd fudd-dal yn y diwedd er ei fod yn llai nar swm y credair achwynydd oedd yn ddyledus iddo. Gwnaeth yr achwynydd apel yn erbyn dyfarniad y Cyngor, gan ofyn iw fudd-dal gael ei ol-ddyddio. Fodd bynnag, ni ymatebodd y Cyngor i gais yr achwynydd am ol-ddyddioi fudd-dal, nag ymateb o gwbl iw gais i drefnu apel yn erbyn dyfarniad y Cyngor. Ar ol hyn, cafodd yr achwynydd gartref newydd a gwnaeth gais arall am fudd-dal tai. Yn y diwedd, penderfynwyd y cais o blaid yr achwynydd, a chafodd fudd-dal.

Yn ystod yr ymchwiliad, derbyniodd y Cyngor fod oedi afresymol wedi digwydd ar ei ran. Cytunodd y Cyngor i adolygu ei ddyfarniad ynglyn ar cais am fudd-dal am ail gartref yr achwynydd, i drefnu apel yn erbyn y gwrthodiad i ol-ddyddio budd-dal yr achwynydd, i gadarnhau taliad budd-dal am gartref presennol yr achwynydd, a thalu iddo £350 am yr anghyfleustra achoswyd iddo gan oedir Cyngor.

Derbyniodd yr achwynydd gynnig y Cyngor, ac ystyriodd yr Ombwdsman fod y feddyginiaeth yn foddhaol i ddileu unrhyw anghyfiawnder a ddioddefodd yr achwynydd o ganlyniad i oedi cydnabyddedig y Cyngor. Felly, terfynodd yr Ombwdsman ei ymchwiliad gan gyhoeddi adroddiad byr i gadarnhau ei benderfyniad.


08 Mawrth 2002