![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
CYNLLUNIO Gorfodaeth 2001/0164/F/171 & 2002/0522/F/187 - CYNGOR SIR FFLINT - Cynllunio Grwp o drigolion lleol oedd yr achwynwyr. Roeddynt yn honni fod y Cyngor yn gyfrifol am sawl toriad o reolaeth cynllunio, wrth iddo weithredu storfa ffyrdd a oedd wedii lleoli yn agos at eu cartrefi. Roedd yr achwynwyr yn anfodlon iawn am y toriadau rheolaeth cynllunio yn enwedig gan fod y Cyngor, fel yr awdurdod cynllunio lleol, yn barod i gymryd achosion gorfodaeth yn erbyn bobl eraill. Roedd yr achwynwyr eisoes wedi cael gorchymyn oddi wrth Llys Ynadon yn gofyn ir Cyngor i ddileu niwsans statudol yn deillio or storfa. Eglurodd yr Ombwdsman yn ei adroddiad, fodd bynnag, nad oedd ganddo yr awdurdod i ddelio âr materion hynny oedd eisoes wedi bod yn destun gweithrediadau cyfreithiol yn Llys yr Ynadon. Dywedodd, hefyd, nad oedd yn bwriadu mynegi barn ar faterion oedd tu fewn i awdurdodaeth penodol asiantaethau statudol eraill. Yr unig fater oedd rhaid iddo farnu arno oedd gweithrediad y Cyngor wrth ir datblygiad gymryd lle ar safler storfa, a phenderfynu os oedd yna gamweinyddu wedi digwydd oedd wedi achosi anghyfiawnder parhaol ir achwynwyr. Bu ir Cyngor gydnabod fod datblygiad (oedd eisiau caniatad cynllunio arno) wedi cymryd lle ar y safle heb y fath ganiatad. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod y fath fethiant yn gyfystyr a chamweinyddu ar ei ran, a gwnaethpwyd y sefyllfa yn waeth gan fod y Cyngor ei hun yn awdurdod cynllunio lleol â chyfrifoldeb am orfodi rheolaeth cynllunio. Roedd yn glir fod yr achwynwyr wedi dioddef niwsans statudol, ond roedd y dystiolaeth yn dangos fod yr anghyfiawnder a ddioddefasant o ganlyniad i dor-rheolaeth cynllunio yn llai. Hefyd, dangosodd y dystiolaeth fod y broblem yn deillio or goleuadau diogelwch wedii datrys gan y Cyngor. Wrth ystyried pa gamau pellach y dylair Cyngor gymryd i ddileur anghyfiawnder ir achwynwyr, (gan gynnwys talu iawndal), rhaid oedd ir Ombwdsman gymryd i ystyriaeth y camau a gymerwyd eisoes gan y Cyngor i geisio gwella ei fethiannau, ar ffaith fod yr achwynwyr yn ceisio barn Cwnsler i ad-ennill iawndal oddi wrth y Cyngor. Bu ir Cyngor gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau caniatad cynllunio ir adeiladau yn y storfa. Ymgynghorodd ar achwynwyr, a chawsant y cyfle i roi eu sylwadau gerbron y Pwyllgor Cynllunio cyn ir penderfyniad gael ei wneud. Nid oedd gan yr Ombwdsman yr awdurdod i farnu haeddiannau cynllunio cais y Cyngor, na haeddiant gwrthwynebiadaur achwynwyr. Materion ir Pwyllgor Cynllunio oedd y rhain. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad, felly, er fod peth anghyfiawnder wedi deillio ir achwynwyr or camweinyddu a ddarganfuodd yn ei adroddiad, roedd y camau a gymerwyd gan y Cyngor i gydymffurfio ar deddfwriaeth rheoli cynllunio wedi lleddfu unrhyw anghyfiawnder parhaol oedd yn deillio or methiant yna. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau na fyddair camweinyddu nar anghyfiawnder yn digwydd eto, gofynnodd yr Ombwdsman ir Cyngor i gyflwyno system gyswllt lle maer holl adrannau yn ymgynghori ar swyddogion cynllunio ar eu datblygiadau er mwyn iddynt fod yn ymwybodol or angen i wneud cais cynllunio mewn amgylchiadau tebyg ir rhai a amlinellwyd yn adroddiad yr Ombwdsman. |
||
22 Mawrth 2002 |
|||