Ymchwiliadau

TAI

Grant Adnewyddu

2001/0352/AC/291 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - Tai

Cwynodd yr achwynydd ir Ombwdsman ar ran ei fam am oedir Cyngor wrth brosesi cais ei fam am grant i adnewyddu ei thy. Dywedodd nad oedd arian ar gael gan y Cyngor i dalur grant erbyn yr amser roedd y Cyngor yn barod i gymeradwyor cais am grant. Darganfuodd ymchwiliad yr Ombwdsman oedi, diffyg gweithredu, diffyg cyfathrebu a chysylltiadau gwael rhwng swyddogion y Cyngor. Bu i fam yr achwynydd holi am grant yn gyntaf ym mis Ebrill 1996. Ni fu unrhyw weithred ar ran y Cyngor fel canlyniad hyd 9 Ionawr 1998 pryd nodwyd gan swyddog fod ei chartref mewn cyflwr gwael iawn. Bu i ymgynghorydd y Cyngor gadarnhau hyn ym mis Mai 1998 ond ni chafodd mam yr achwynydd wybodaeth am yr archwiliadau tan fis Tachwedd 1998. Ni chlywodd unrhyw beth ymhellach tan mis Hydref 1999 pan ofynnwyd iddi os oedd eisiau Asiantaeth Grant y Cyngor i weithredu ar ei rhan. Or diwedd, ar 9 Mai 2000, derbyniodd y Cyngor fod cais grant ddilys wedii gwneud gan fam yr achwynydd trwy lawr Asiantaeth Grant. Felly, rhaid oedd ir Cyngor benderfynur cais cyn 9 Tachwedd 2000 o dan orfodaeth statudol. Fodd bynnag, ni benderfynwyd y cais tan 14 Mehefin 2001. Hyd yn oed ar ol ir amser statudol redeg allan, ni chymerwyd unrhyw gamau i fynd ar mater ymlaen, naill ai gan yr Asiantaeth Grant neur Adran Grantiau. Dim ond ar ol i swyddog ddweud wrth un arall beth syn digwydd, rhoddwyd ystyriaeth ychwanegol ir cais. Cafodd yr achwynydd wybodaeth mai uchafswm y grant oedd £24,000, a byddai rhaid iw fam dalur gwahaniaeth rhwng y grant ar gost lawn. Roedd y gwahaniaeth yna yn £23,000. Fodd bynnag, dywedodd swyddogion wrth yr achwynydd y gallai wneud cais ir Cyngor am arian ychwanegol ar ben y grant llawn, a mynegodd iddynt y byddain gwneud cais am arian ychwanegol. Roedd yr achwynydd yn meddwl, felly, nad oedd rhagor iddoi wneud. Er hynny, cafodd wybodaeth ym mis Ionawr 2001 y byddai rhaid iw fam dalur costau nad oeddynt o fewn y grant o £24,000. Aeth ati i wneud trefniadau ar unwaith i geisio cael arian ychwanegol, ond erbyn diwedd mis Mawrth, penderfynodd y Cyngor nad oedd yn medru dosbarthu rhagor o grantiau.

Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod oedir Cyngor ai fethiant i ddilyn cais yr achwynydd am grant ychwanegol yn gyfystyr a chamweinyddu, a gwnaethpwyd hyn yn waeth gan fethiant yr Asiantaeth Grant i weithredu, a diffyg cofnodion clir ac ysgrifenedig. Roedd yr Ombwdsman yn fodlon, os na fyddai oedi wedi digwydd, byddai mam yr achwynydd wedi derbyn grant o £24,000. Fel meddyginiaeth am yr anghyfiawnder, argymhellodd yr Ombwdsman ir Cyngor dalu £26,000 i fam yr achwynydd (cyfanswm y grant o £24,000 y ddylai fod wedii dderbyn onibair camweinyddu, a £2000 o iawndal am yr amser ychwanegol y gorfodwyd iddi fyw mewn eiddo anffit), a £300 ir achwynydd i gydnabod ei amser ai drafferth wrth ddilyn y gwyn ar ran ei fam. Er mwyn osgoir camweinyddu yn y dyfodol, argymhellodd yr Ombwdsman ir Cyngor adolygu swyddogaethaur Asiantaeth Grant ar Adran Grantiau er mwyn ceisio gwellar cyfathrebu rhwng swyddogion, ac ymgeiswyr ac ymholwyr am grantiau.


08 Chwefror 2002