Ymchwiliadau

TAI

Budd-daliadau

2001/0189/DE/156 - CYNGOR SIR DINBYCH-Tai Budd-daliadau

Gwnaeth yr achwynydd gais ir Cyngor am fudd-dal tai yn mis Ionawr 2001, ond er fod y deddfwriaeth yn gofyn ir cais gael ei benderfynu gan y Cyngor o fewn 14 niwrnod, ni gafodd ei benderfynu yn derfynol hyd Ionawr 2002. Dywedodd y Cyngor fod yr oedi wedi digwydd yn bennaf oherwydd methiant yr achwynydd i osod y gwybodaeth angenrheidiol o flaen y Cyngor, ond nid oedd y Cyngor wedi dechrau prosesur cais hyd Ebrill 2001. Dylai fod wedi anfon manylion rhent yr achwynydd ir Swyddog Rhent iw asesu o fewn tri diwrnod gwaith o dderbyn y cais, ond ni wnaeth y Cyngor hynny am dri mis. Hefyd, methodd y Cyngor ystyried talu budd-dal ir achwynydd ar gyfrif (yn unol ar rheolau perthnasol), a methodd weithredu ei system gwynion fewnol, yn ogystal a methu ymateb i gwyn a wnaethpwyd ar ran yr achwynydd.

Ystyriodd yr Ombwdsman fod methiannaur Cyngor yn gyfystyr a chamweinyddu ar ei ran, ond wrth ystyried yr anghyfiawnder yr achoswyd ir achwynydd ar feddyginiaeth bosibl am yr anghyfiawnder, cymerodd yr Ombwdsman i ystyriaeth yr oedi ar ran yr achwynydd ei hun cyn cyflwyno gwybodaeth ir Cyngor, yn enwedig copiau oi adroddiadau banc. O dan yr amgylchiadau yma, ac fel meddyginiaeth, felly, argymhellodd yr Ombwdsman ir Cyngor dalu £150 ir achwynydd.

Er mwyn sicrhau na fydd y camweinyddu nar anghyfiawnder yn digwydd eto, gofynnodd yr Ombwdsman ir Cyngor wneud yn siwr:-

(a) fod yr ol-groniad o waith ar geisiadau syn weddill am fudd-dal yn cael ei ddileu; (b) fod ystyriaeth ddigonol yn cael ei roi i dalu budd-daliadau ar gyfrif os oedd oedi yn debygol o ddigwydd wrth benderfynu cais; (c) fod cofnodion digonol yn cael eu cadw o ohebiaeth efo ymgeiswyr.


15 Ionawr 2002