![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
CYNLLUNIO A IECHYD YR AMGYLCHEDD Diffyg ymgynghori a gweithredu 2000/0831/NT/180 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd - Cynllunio Bu ir achwynydd honni fod y Cyngor wedi methu ymgynghori a hi cyn cymeradwyo cais cynllunio a wnaethpwyd gan glwb rygbi lleol i ddatblygu cyfleusterau ychwanegol ir gwylwyr, gan gynnwys ystafelloedd lletygarwch yn y cae rygbi sydd yn agos iw chartref. Cwynodd, hefyd, fod y swn oedd yn gysylltiedig a defnydd y cyfleusterau yn achosi niwsans iddi hi ai theulu. Roedd yr Ombwdsman yn fodlon, fodd bynnag, fod y Cyngor wedi gwneud pob ymdrech i ymgynghori ar achwynydd a thrigolion lleol eraill am gais cynllunior clwb rygbi cyn iddo wneud y penderfyniad i roi caniatad. Nid yn unig gosodwyd hysbyseb gan y swyddogion ar bolyn lamp ger mynediad ir cae rygbi dim ond rhyw chwe thy oddi wrth eiddor achwynydd, ond trefnwyd, hefyd, i anfon llythyrau ymgynghorol i ddeiliaid 193 o dai yn yr ardal, gan gynnwys yr achwynydd. Ni fedraur Ombwdsman ddweud pam na dderbyniwyd llythyr y Cyngor gan yr achwynydd a rhai oi chymdogion, ond nid oedd tystiolaeth iw alluogi i ddod ir casgliad fod hyn wedi digwydd oherwydd ryw fethiant ar ran y Cyngor. Efallai fod rhai llythyrau wediu colli yn y post, ond derbyniwyd rhai or llythyrau gan gymdogion a bu i un ohonynt ymateb iddo. Dywedodd yr Ombwdsman, hyd yn oed os oedd digon o dystiolaeth iw alluogi i ddod ir casgliad fod y methiant i drosglwyddo llythyr y Cyngor ir achwynydd wedi digwydd oherwydd ryw amryfusedd gweinyddol gan y Cyngor, nid oedd tystiolaeth y byddai penderfyniad y Cyngor i roi caniatad cynllunio wedi bod yn wahanol. Cafodd y pwyllgor cynllunio wybodaeth llawn am bryderon y trigolion lleol am effaith bosibl y datblygiad ar eu mwynderau byw. Roedd yr aelod lleol wedi gosod eu teimladau yn gryf ir pwyllgor. Felly, roedd y pwyllgor yn ymwybodol o bryderon y trigolion cyn gwneud ei benderfyniad. Roedd rhaid ir pwyllgor gofio, fodd bynnag, fod y cae rygbi wedi bod yn gartref ir clwb am flynyddoedd maith, fod y seddau ychwanegol ddim yn codi maint y dorf, a fod gwylwyr eisoes yn sefyll mewn amgaead oedd yn ffinio a thair achwynydd ai chymdogion. Roedd y cwynion am swn yn ymwneud a chwarae miwsig ac adloniant perthnasol yn ystod y gemau, fwy nag am y datblygiadau materol oedd ynghlwm a chais cynllunior clwb rygbi. Ni ddarganfuodd yr Ombwdsman wendidau gweinyddol yn y modd y daeth y Cyngor iw benderfyniad ar y cais cynllunio. Hefyd, nid oedd tystiolaeth o gamweinyddu yn y ffordd yr ymatebodd y Cyngor i gwynion yr achwynydd am swn. Ymwelodd swyddogion ar achwynydd, bu iddynt fonitror swn ar adegau penodol, ac iddynt gymryd y darlleniadau perthnasol. Gwnaeth y Cyngor gynrychioliadau ir clwb rygbi er mwyn ceisio lleihau effaith y gemau ar y trigolion lleol, ac ymatebodd y clwb yn bositif ir cynrychioliadau hynny. Felly, nid oedd yr Ombwdsman yn cynnal cwyn yr achwynydd. 7 Medi 2001 |
||
07 Medi 2001 |
|||