![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
TAI Grant atgyweirio 2000/0755/AC/277 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - Tai Bu i dyr achwynydd ei niweidio gan dan, a symudodd ef ai deulu i fyw mewn carafan ger y ty. Gofynnodd ir Cyngor am grant i adnewyddur ty ym mis Medi 1996. Gwnaeth gais ffurfiol am grant, a derbyniodd y Cyngor fod y manylion ar gwybodaeth angenrheidiol wediu cyflwyno erbyn 5 Awst 1999. Roedd y gyfraith yn gofyn ir Cyngor benderfynur cais erbyn 5 Chwefror 2000, fan pellaf. Ni wnaethpwyd penderfyniad tan 18 Gorffennaf 2000, ryw bum mis a hanner ar ol ir amser statudol ddirwyn i ben. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod yr oedi yma yn gyfystyr a chamweinyddu. Er fod swyddogion y Cyngor wedi dod ir casgliad erbyn mis Gorffennaf 1997 fod tyr achwynydd yn anffit i fyw ynddo, bu oedi pellach cyn penderfynu ai atgyweirio neu dymchwel (a chau) fyddair ffordd fwyaf addas i ddelio ar anffitrwydd. Gwnaed effaith yr oedi yn waeth gan ddryswch rhwng swyddogion y Cyngor ynglyn ar ffordd fwyaf addas i ddelio a chais yr achwynydd am grant, ar argraff anghywir a roddwyd ir achwynydd y byddair cais am grant yn cael ei gymeradwyo yn y diwedd. Trefnodd swyddogion i bensaer yr achwynydd i gyflwyno cynllun adnewyddu ynghyd a chynigion oddi wrth ddau gontractwr, a gofynnwyd ir achwynydd osod gwybodaeth am ei amgylchiadau ariannol. Cafodd yr achwynydd lythyr oddi wrth y Cyngor oedd yn dweud fod y swyddogion yn gobeithio mynd ymlaen ar cais tuag at ei gymeradwyo. Fodd bynnag, yn y diwedd, gwrthodwyd ei gais. Dywedodd yr Ombwdsman fod cyfathrach y swyddogion efor achwynydd yn llawn amryfusedd, oedi dianghenraid, diffyg cyfathrebu clir a phrydlon a methiant i ymateb yn bendant ac yn gyd-drefnedig iw ymholiadau. Ym mis Gorffennaf 1997, dywedwyd wrth yr achwynydd mai dymchwel ac ail-adeiladu oedd yn addas, ond ym mis Awst 1997 dywedodd swyddog grant wrtho mai gwneud gorchymyn cau fyddai orau. Erbyn mis Rhagfyr 1998, daeth swyddog arall ir casgliad mai atgyweirio oedd yn addas ond ni fyddai grant yn cael ei rhoi oherwydd, yn ei dyb ef, roedd gwaith dymchwel ac ail-adeiladu sylweddol iw wneud. Dymar rheswm a osodwyd am droi cais yr achwynydd i lawr ym mis Mawrth 1999, ond ar ol hyn, dywedodd swyddog wrtho am ofyn am gael ail-ystyriaeth iw gais. Ym mis Medi 2000, adroddwyd i aelodaur Cyngor fod y gwaith dymchwel angenrheidiol ddim yn sylweddol, ond ni fedrur gwaith o ail-adeiladu gael ei gwblhau am y pris a gynigiwyd gan bum contractwr gwahanol. Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y swyddogion grant, fodd bynnag, gan fod sawl contractwr wedi cynnig gwneud y gwaith am bris rhesymol, ni fyddai gwrthod y cais am y rheswm fod y cynigion yn anaddas, yn gyfiawn. Er hynny, nid oedd panel o aelodau a benderfynodd, yn y diwedd, i wrthod y cais wedi cael gwybodaeth am farn y Swyddog Monitro. Roedd yr Ombwdsman yn fodlon fod yna gamweinyddu yn y modd yr oedd y Cyngor wedi delio a chais yr achwynydd am grant. O ganlyniad, bu ir achwynydd gael ei adael mewn sefyllfa ansicr a rhwystredig, gan fethu, ar yr un llaw, i fynd ymlaen ai gynlluniau i atgyweirioi dy oherwydd byddai gwneud hynny wedii anghymwyso rhag derbyn grant, ac ar y llaw arall yn methu trefnu i fynd yn ol iw gartref oherwydd gwybodaeth anghyson gan y Cyngor ai oedi cyn gwneud penderfyniad terfynol. Argymhellodd yr Ombwdsman ir Cyngor:- (a) I roi ystyriaeth ychwanegol a phrydlon i gais yr achwynydd am grant yng ngoleuni ei adroddiad a barn y Swyddog Monitro am ddilysrwydd cynigion y gwahanol gontractwyr. (b) I dalun ol ir achwynydd ei gostau proffesiynol erthylus hyd yn hyn os na fydd grant yn daladwy iddo, neu os na fydd grant yn cynnwys y fath gostau. (c) I dalu £1,000 ir achwynydd am yr amser y mae ef ai deulu wedi gorfod byw am fwy na ddylent fod wedii wneud mewn amgylchiadau annerbyniol yn eu carafan, am y rhwystredigaeth ar ansicrwydd a ddioddefasant, ac am ei amser ai drafferth i ddilyn ei gwyn. (ch) I adolygui systemau ai brosesau er mwyn gwellar cyfathrebu rhwng swyddogion, ac i sicrhau ymateb cyd-drefnedig i ymholiadau oddi wrth y cyhoedd. |
||
16 Gorffennaf 2001 |
|||