![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
CYNLLUNIO Ymgynghori 2000/0646/CG/148 - Cyngor Sir Ceredigion - Cynllunio Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod camweinyddu yn yr achos yma oherwydd ir Cyngor, fel yr awdurdod cynllunio lleol, fethu i ymgynghori ar achwynydd am gais cynllunio a dderbyniodd am ganiatad i adeiladu dau dy newydd ar safle tu cefn i dyr achwynydd. Cafodd cymydog oedd yn byw cyferbyn ar safle wybodaeth am y cais er fod achos cryfach i ymgynghori ar achwynydd, yn enwedig gan ei fod yn rhannu cyd-derfyn efor safle datblygu. Bu ir camweinyddu ei wneud yn waeth gan nad edrychodd y swyddog achos ar y safle o dyr achwynydd, a gan na wyddai fod ganddo dy gwydr. Felly, ni chymerwyd yr adeilad yma i ystyriaeth pan wnaeth asesiad or bwriad datblygu. O ganlyniad i fethiant y Cyngor i roi gwybodaeth iddo am y cais, collodd yr achwynydd y cyfle i osod ei farn ir Cyngor cyn ir Cyngor wneud y penderfyniad i roi caniatad cynllunio. Roedd y golled cyfle yma wedi achosi anghyfiawnder iddo. Bu ir methiant i ymgynghori ar achwynydd achosi gwybodaeth anghywir gael ei gynnwys yn adroddiad y swyddog i Bwyllgor Cynllunior Cyngor gan fod yr adroddiad yn dweud nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wediu derbyn oddi wrth gymdogion. Er fod y datganiad yma yn wir, nid oedd yn llawn ac yr oedd yn gamarweiniol, hefyd, oherwydd y rheswm paham nad oedd gwrthwynebiadau wediu gosod gan yr achwynydd oedd ei fod heb gael gwybodaeth am y cais ac, felly, nad oedd yn ymwybodol ohoni. Ni fedrair Ombwdsman ddweud os fyddai penderfyniad y Cyngor yn wahanol pe byddai aelodaur pwyllgor cynllunio yn ymwybodol o deimladaur achwynydd cyn iddynt wneud eu penderfyniad. Fodd bynnag, rhaid oedd iddo ystyried, onibai am y camweinyddu, byddai gwrthwynebiadaur achwynydd o flaen yr aelodau a byddent yn ymwybodol oi dy gwydr ar pellter rhwng y ty gwydr ar cyd-derfyn. Cadarnhaodd y swyddog achos, yn ei thyb hi, roedd y pellter rhwng ty gwydr yr achwynydd a therfyn y datblygiad newydd yn 10 medr ac os byddai hwn yn cael ei ychwanegu at y dyfnder o 10 medr yn ngarddiau cefn y tai newydd (fel a ddisgrifiwyd yn adroddiad y swyddog ir aelodau), byddair pellter rhwng ffenestri ystafelloedd byw, ar y mwyaf, yn 20 medr. Roedd y pellter yma yn fyr or lleiafswm o 21 medr oedd yn ofynnol yng nghanllawiaur Cyngor ei hun fel pellter rhwng ffenestri ystafelloedd byw. Roedd yr Ombwdsman yn fodlon, felly, y byddai gwrthwynebiadaur achwynydd, ar gyfartaledd, wedi achosi i benderfyniad gwahanol gael ei wneud. Hyd yn oedd pe byddair datblygiad ddim wedii wrthod, efallai byddair aelodau wedi gofyn ir datblygwr i adeiladur tai ymhellach i ffwrdd or terfyn, neu i gymryd rhyw fesurau eraill i ddiogelu preifatrwydd yr achwynydd. Ymhob amgylchiad or gwyn, ymddangosodd ir Ombwdsman mair ffordd resymol ac addas ir Cyngor roi meddyginiaeth ir achwynydd am yr anghyfiawnder, oedd iddo ofyn ir Archwilydd Dosbarth, fel arbennigwr annibymol, i fesur y pellter cywir rhwng ffenestri byw tyr achwynydd a rheini yn y tai newydd. Os fydd yr Archwilydd Dosbarth yn amcangyfrif fod y pellter yn llai na llinell mynegir Cyngor o 21 medr dylair Achwilydd Dosbarth benderfynu os yw tyr achwynydd wedi cael ei ddibrisio gan y datblygiad newydd. Os penderfyna fod yna ddibrisio, gofynnir ir Cyngor dalu swm o arian ir achwynydd syn gyfystyr ar dibrisiad. Ar ben hyn, (ac ar wahan i unrhyw ddibrisiad ai peidio), gofynnir ir Cyngor dalu £200 ir achwynydd am ei amser ai drafferth i ddilyn ei gwyn ai deimlad o annhegwch gan na gafodd ei ymgynghori ar y cais cynllunio. Gan fod y Cyngor eisoes wedi cymryd camau i adolygui brosesau ac i ymgynghori a chymdogion ar geisiadau cynllunio tebyg yn y dyfodol, ni welodd yr Ombwdsman achos i argymhell camau ychwanegol i geisio atal yr un fath o gamweinyddu, ar anghyfiawnder a ddeilliodd ohono. |
||
14 Mehefin 2001 |
|||