Ymchwiliadau

ADDYSG

Anghenion Addysg Arbennig

2000/0278/W/082 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Ym mis Medi 1998, cafodd merch yr achwynydd asesiad gan ei hysgol a ddangosodd fod ganddi broblemau dysgu oedd yn cyfiawnhau cymorth addysgol ychwanegol. Ym mis Tachwedd 1999, gofynnodd yr achwynydd ir Cyngor i wneud asesiad ffurfiol o anghenion addysgol ei merch. Ysgrifennodd at y Cyngor, hefyd, ym mis Ionawr 2000 gan fynegi ei phryder ynglyn ai merch. Cwynodd ir Ombwdsman fod y Cyngor wedi methu gwneud asesiad o anghenion ei merch fel y dymunai, nac wedi ymateb iddi ar rhesymau dros beidio gwneud y fath asesiad, ac fel canlyniad, roedd addysg ei merch yn cael ei effeithion andwyol.

Yn unol a threfniadau a gytunwyd efor Comisiwn dros Weinyddu Lleol yn Lloegr, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol, 1974, derbyniodd Mr Osmotherly, y Comisiynydd dros Lundain Fwyaf, y gwyn iw hymchwilio.

Daeth ir casgliad nad oedd camweinyddu yn y modd y daeth y Cyngor ir penderfyniad i beidio gwneud asesiad statudol o anghenion y ferch fel y dymunodd y fam ym mis Tachwedd 1999. Fodd bynnag, pan ysgrifennodd y Cyngor at yr achwynydd i ymateb iw chais am asesiad, ni ddywedodd wrthi fod ei chais wedii wrthod na dweud wrthi am ei hawl statudol i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysg Arbennig. Daeth Mr Osmotherly ir casgliad fod y methiant yma, yn hyn o beth, ar methiant tebygol i anfon ddau lyfryn o wybodaeth am y broses statudol yn gyfystyr a chamweinyddu. Bu ir diffygion yma achosi anghyfiawnder ir achwynydd oherwydd roedd wedi collir cyfle i osod apel ir Tribiwnlys, a byddai wedi osgoi llawer o drafodaeth a gohebiaeth efor Cyngor ar ysgol pebai wedi derbyn y cyngor cywir oddi wrth y Cyngor, ynghyd ar dogfennau perthnasol.

Fodd bynnag, daeth ir casgliad nad oedd anghyfiawnder yn deillio i ferch yr achwynydd. Ar ol derbyn ymholiad pellach oddi wrth yr achwynydd, bu ir Cyngor, rhwng Medi a Rhagfyr 2000, gario allan asesiad statudol o anghenion addysgol ei merch, a dod ir casgliad, er ir ysgol barhau rhoi cymorth ychwanegol iddi i oresgyn ei phroblemau, nad oedd datganiad am ei anghenion addysgol yn angenrheidiol. Daeth Mr Osmotherly ir casgliad, hyd yn oed pebair achwynydd wedi cael gwybodaeth am ei hawl i apelio yn erbyn gwrthodiad y Cyngor, ac hyd yn oed pebair apel yna wedi bod yn llwyddiannos, nid oedd tystiolaeth iddo ddod ir casgliad y byddai canlyniad unrhyw asesiad a gynhaliwyd yn unol a phenderfyniad y Tribiwnlys yn wahanol i ganlyniad yr asesiad a wnaethpwyd gan y Cyngor ar ddiwedd 2000.

Er ir achwynydd ystyried ei ymholiad ir ysgol ym mis Ionawr 2000 fel ail ymholiad ffurfiol, bu i Mr Osmotherly ddim darganfod camweinyddu yn y ffordd bu ir Cyngor ymateb ir ymholiad yma. Argymhellodd ir Cyngor i dalu £250 ir achwynydd am yr anghyfiawnder a ddeilliodd iddi o fethiannaur Cyngor.


26 Mawrth 2001