Ymchwiliadau

TAI

Grantiau adnewyddu tai

2000/0341/R/268 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Roedd y gwyn yn ymwneud ac oedi ar ran y Cyngor cyn penderfynu cais yr achwynydd am grant i adnewyddu ei thy a wnaethpwyd ym mis Mehefin 1996. Darganfuodd yr Ombwdsman fod yna sawl gwendid yn y modd y deliodd y Cyngor ai chais am grant. Ni wnaethpwyd unrhyw beth gan y Cyngor ynglyn ai chais tan mis Tachwedd 1977, bron flwyddyn a hanner ar ol iddo dderbyn y cais. Nid oedd unrhyw dystiolaeth fod yr achwynydd wedi cael gwybodaeth yn unol a gorchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol, fod newidiadau yn digwydd ir deddfwriaeth grantiau perthnasol ym 1996. Er ir achwynydd gyflwyno ymholiad arall Ir Cyngor ym mis Rhagfyr 1997, ni aseswyd y cais yma nar un blaenorol o dan system flaenoriaethaur Cyngor tan fis Mai 1998. Dyfarnwyd tyr achwynydd yn anffit i fyw ynddo gan swyddog iechyd yr amgylchedd ym mis Awst 1998, ond ni chyfansoddwyd atodlen or gwaith angenrheidiol (ar prisiau) tan fis Mai 1999. Bu chwe mis pellach o oedi cyn ofynwyd i adran iechyd yr amgylchedd i wneud asesiad adnewyddu cymdogaeth o dyr achwynydd, a bu rhagor o oedi cyn gwyneud yr asesiad oherwydd fod y cyfarwyddyd ir adran yn cyfeirio at y pentref anghywir. Hefyd, r oedd cyfeiriad yr achwynydd yn anghywir mewn gohebiaeth i adran iechyd yr amgylchedd yn ei atgoffa am yr asesiad. Erbyn yr amser y datganodd adran iechyd yr amgylchedd y dylai grant gael ei thalu ir achwynydd, r oedd arian grantiau y Cyngor am y flwyddyn ariannol 2000/2001 wediu clustnodi yn llawn, ac ni chafodd yr achwynydd grant.

Roedd yr Ombwsdman yn fodlon fod y diffygion uchod yn gyfystyr a chamweinyddu oedd wedi achosi anghyfiawnder ir achwynydd oherwydd, onibai am yr oedi, byddair achwynydd wedi cael grant cyn y dyddiad y cyhoeddwyd adroddiad yr Ombwdsman. Dangosodd cofnodion y Cyngor fod grantiau wediu cymeradwyo cyn mis Rhagfyr 1999 i bob un or 72 oedd wedi gwneud ymholiad am grant ir Cyngor yn ystod y chwe mis ar ol ir achwynydd wneud ei chais ym mis Mehefin 1996. Yr achwynydd oedd yr unig un or grwp yna nad oedd wedi cael grant bryd hynny. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad, o dan yr amgylchiadau uchod, mair feddyginiaeth briodol am yr anghyfiawnder a ddioddefwyd gan yr achwynydd oedd ir Cyngor brosesu ei chais a chymeradwyo ei grant heb oedi pellach. Hefyd, wrth ystyried yr amser diangen y bu ir achwynydd fyw mewn ty anaddas ac is-raddol, ac er mwyn cydnabod ei hamser ai thrafferth i ddilyn ei chwyn gydar Ombwdsman, gofynnwyd ir Cyngor dalu £1500 iddi. Argymhellodd yr Ombwdsman, hefyd, ir Cyngor i adolygu ei systemau wrth fonitro ymholiadau a cheisiadau am grantiau, a gofynnodd ir Cyngor i sicrhau fod cofnodion digonol yn cael eu cadw or gweithredoedd syn cael eu cymryd yn ystod y broses o ystyried ceisiadau am grantiau.


27 Mawrth 2001