![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
CYLLID Treth Y Cyngor 2000/0087/R/247 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Methodd y Cyngor weithredu ar wybodaeth anfonwyd gan yr achwynydd ir Adran yn delio a budd-daliadau tai yn dweud wrth y Cyngor fod ty yn ei eiddo wedii ddinistrio gan dan. Bu ir Cyngor, trwy gamgymeriad, ac heb ei wybodaeth, geisio cael gorchymyn dyledion yn ei erbyn yn y Llys Ynadon Lleol am dreth y Cyngor nad oedd yn daladwy ganddo. Cydnabur Cyngor fod y gorchymyn dyledion wedii gael oherwydd gwallau gweinyddol a methiant difrifol o gyfathrebu rhwng adran fudd-daliadau tai y Cyngor ar adran yn delio a threth y Cyngor. Ystyriodd yr Ombwdsman fod y methiannau yma ar diffyg cyfathebru yn gyfystyr a chamweinyddu ar ran y Cyngor. Hefyd, bu ir camweinyddu gael ei wneud yn waeth gan lythyr anfonwyd ar ran y Prif Weithredwr ir achwynydd a ddywedodd fod y Prif Weithredwr yn fodlon or gwybodaeth oedd gan Adran y Trysorydd ar yr amser penodol, fod y weithred iawn wedii chymryd. Ar yr amser yr ysgrifenwyd y llythyr yma ir achwynydd, roedd awdur y llythyr eisoes wedi derbyn copi o lythyr oddi wrth Adran y Trysorydd ir Llys Ynadon ac ynddo roedd gwall y Cyngor wedii gydnabod, ac yn gofyn ir Ynadon i ddileur gorchymyn dyledion o gofnodion y Llys. Er hynny, ni anfonwyd copi or llythyr ir Ynadon ir achwynydd ac ni chafodd wybodaeth bryd hynny fod y Cyngor yn derbyn iddo wneud camgymeriad. Gwnaethpwyd y camweinyddu yn waeth oherwydd ir Cyngor oedi cyn cyndabod yn llawn ei gamgymeriad, ac oblegid iddo oedi cyn cymryd camau digonol i unioni cwyn yr achwynydd. Bu i dyr achwynydd fod yn amhreswyliadwy oberwydd tan ar 8 Rhagfyr 1998. Ar yr un diwrnod, dywedodd yr achwynydd wrth y Cyngor fod y ty yn amhreswyliadwy a bod y tenantiaid wedi symud allan. Bu i swyddog or Cyngor archwilior ty ar 25 Hydref 1999 a gwelodd effaith y tan, ond er hynny, bu i gamgymeriad y Cyngor i gael gorchymyn dyledion (heb ir achwynydd wybod) ddim ei gydnabod tan 19 Ionawr 2000, ac yna ddim ond ar ol i lythyr gael ei anfon ir Trysorydd ar ran yr Ynadon. Cymerodd chwe mis arall ir Cyngor, ar ol ysgrifennu ir Ynadon, i ysgrifennu at yr achwynydd i gydnabod ei wall, a rhoddodd y Cyngor ymddiheuriad ir achwynydd, ddim ond ar ol iddo gwyno ir Ombwdsman. Hyd yn oed bryd hynny, nid oedd y Cyngor yn barod i gynnig unrhyw feddyginiaeth ir achwynydd am yr anghyfiawnder achoswyd iddo. Bu saith wythos arall o oedi ar ran y Cyngor cyn iddo gynnig £100 ir achwynydd, ac nid oedd yn barod i ystyried codir swm yma tan mis Ionawr 2001 ar ôl iw swyddogion sylweddoli yn gyntaf fod camgymeriad wedi wneud. Argymhellodd yr Ombwdsman ir Cyngor dalu £300 ir achwynydd ac, hefyd, ymddiheuron rhadlon iddo wrth gydnabod ei ffaeleddau. Argymhellodd, hefyd, ir Cyngor sicrhau fod ganddo system gwyno gorfforaethol effeithiol i ddelio, ac i ymchwilio cwynion yn y dyfodol yn drylwyr a phrydlon er mwyn osgoi camgymeriadau ac i sicrhau iddynt gael eu cydnabod au cyweirio, ac felly byddair anghyfiawnder yn cael ei unioni cyn gynted a phosibl. Awgrymodd yr Ombwdsman y dylai swyddog monitror Cyngor chwarae rhan flaenllaw mewn unrhyw system gwyno, ei mwyn iddo fedru sicrhau fod ymatebion llawn a chynhwysfawr yn cael eu rhoi, nid yn unig i gwynion, ond hefyd i ymholiadau oddi wrth yr Ombwdsman. Dywedodd y byddai system gwyno fewnol oedd yn ddigonol ac yn effeithiol wedi osgoi gorfod cyhoeddi adroddiad yn yr achos yma. |
||
05 Chwefror 2001 |
|||