Ymchwiliadau

TAI

Grantiau

2000/0156/CF1/019 and 2000/0153/CF/263 - cyn-Gyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Sir Caerdydd

Ar 9 Medi 1993, bu ir achwynydd ofyn ir cyn-Gyngor a oedd hawl ganddo i gael grant tuag at adnewyddu ei gartref. Cwynodd ir Ombwdsman fod y cyn-Gyngor ai olynydd, Cyngor Sir Caerdydd, heb roddi eglurhad boddhaol iddo, wedi methu prosesi ei gais, ac heb ddweud wrtho, wedi newid y sail o benderfynu ar ei gymhwyster am grant, yn fympwyol. Or dyddiad y gwnaeth yr achwynydd ei ymholiad cyntaf am grant tan 17 Rhagfyr 1996, roedd ganddor hawl i gael grant mandadol os oedd ei dy yn anaddas i fyw ynddo yn unol a diffiniad or term yma, ac os oedd wedi cyflwyno ffurflen gais gyflawn gyda amcangyfrif o gost y gwaith oddi wrth o leiaf dau gontractwr. Bu ir cyn-Gyngor archwilior ty ym mis Tachwedd 1993 ac yna ysgrifennu ato ar 10 Ionawr 1994 i ddweud wrtho ei fod yn gymwys i dderbyn cymorth grant. Ar ol hyn, bu ir cyn-Gyngor ar Cyngor Sir weithredu system o flaenoriaethu lle roedd blaenoriaeth yn cael ei roi i dai peryglus, yna i rai mewn dadfeiliad enbyd ac wedyn i dai roedd y ddau Gyngor yn eu dosbarthu fel ffiniol ffit. Roedd tyr achwynydd yn ffiniol ffit yn ol y Cyngor, ond daeth yr Ombwdsman ir casgliad, yn ol darpariaeth Deddf Tai 1985, fod y cyn-Gyngor wedi penderfynu fod y ty yn anffit ym mis Tachwedd 1993 oherwydd fod tai ffit yn cael eu gosod mewn category gwahanol gan y Cyngor a gan fod llythyr y Cyngor ir achwynydd dyddiedig 10 Ionawr 1994 wedi dweud wrtho ei fod yn gymwys am gymorth grant.

Fodd bynnag, ni chyflwynodd yr achwynydd gais cyflawn ir Cyngor bryd hynny: dim ond ymholiad rhagarweiniol. Roedd yr achwynydd yn ymwybodol or ffaith nad oedd y ffurflen a lenwodd a gyflwynodd ym 1993 yn gyfystyr a chais gyflawn am grant (dim ond ymholiad) oherwydd fod nodyn mewn print amlwg ar y ffurflen. Felly, nid oedd ganddo hawl i gael grant cyn yr amser y newidiwyd y deddfwriaeth ym 1996, a phan ddaeth dosbarthu grantiau yn fater o ddiscresiwn ir Cyngor Sir. Fodd bynnag, ystyriodd yr Ombwdsman fod yr achwynydd a hawl i ystyried o gynnwys y llythyr oddi wrth y Cyngor iddo ar 10 Ionawr 1994, ei fod i gael grant maes o law. O ganlyniad ir llythyr yma, roedd yr achwynydd wedi credun bendant mai dim ond aros ei amser yn y ciw oedd rhaid iddo ei wneud.

Fodd bynnag, ym mis Ionawr 1996, penderfynodd y cyn-Cyngor i newid ei bolisi gan ddiffinio pob ty ffiniol ffit fel tai ffit gydar bwriad y byddai pob ymholiad am grant yn y categori yna yn cael eu tynnu yn ol or rhestr aros. Archwiliwyd tyr achwynydd eto a chafwyd ef yn ffiniol ffit unwaith eto. Felly, tynnwyd ei ymholiad am grant yn ol gan y Cyngor or rhestr aros, ond ni ddywedodd y Cyngor wrtho fod ei ymholiad ddim yn cael ei brosesi ymhellach, er fod yna gofnod gan bwyllgor or Cyngor y dylai perchnogion pob ty lle tynnwyd ymholiad am grant yn ol, gael gwybodaeth o benderfyniad y Cyngor a chael cyngor i wneud gwaith atgyweirio angenrheidiol eu hunain neu ystyried gwneud cais am gymorth tuag at waith bychan.

Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod methiant y Cyngor Sir i ysgrifennu at yr achwynydd ynglyn ar newidiadau yn y polisi, ac i wneud yn glir iddo fod ei ymholiad am grant wedii dynnun ol or rhestr aros, yn gyfystyr a chamweinyddu ar ei ran. Yn nhyb yr Ombwdsman, roedd hawl gan yr achwynydd i gredu y byddai yn cael ei ystyried am gael grant i adnewyddu ei dy iw wneud yn ffit i fyw ynddo pan fyddai cronfa ddigonol o arian ar gael gan y Cyngor. Gan fod yr achwynydd wedi gwneud ei ymholiad cyntaf am grant ym 1993 a gan ei fod fyth wedi tynnu ei ymholiad yn ol, argymhellodd yr Ombwdsman y dylair Cyngor Sir roir achwynydd yn yr un sefyllfa yn y ciw am grantiau oedd yn addas i berson a wnaeth ei ymholiad cyntaf am grant ar 9 Medi 1993. Cymerodd yr Ombwdsman y byddair adnoddau sydd ar gael ir Cyngor Sir yn newid, efallai, o fewn rhai blynyddoedd ac, felly, gall ei bolisiau, hefyd, newid. Dywedodd, os a phryd fyddai hynny yn digwydd, dylai ymholiad yr achwynydd gael ei ystyried ac ni ddylai gael ei anfanteisio gan fethiannaur Cyngor ei hun. Argymhellodd yr Ombwdsman ir Cyngor Sir dalu £200 ir achwynydd i gydnabod yr ansicrwydd a achoswyd iddo oherwydd camweinyddur Cyngor, ac iw ddigolledu am yr amser ar trafferth i ddilyn ei gwyn ir Cyngor ac ir Ombwdsman.


31 Ionawr 2001