![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
CYNLLUNIO Gofodaeth 98/1114/CM/195 & 99/0282CM1/010 - Cyn-Gyngor Dosbarth Caerfyrddin a Chyngor Sir Gaerfyrddin Bur achwynwyr yn cadw busnes arlwyo o eiddo yr oeddynt yn ei berchen drws nesaf i fodurdy fasnachol. Cwynent fod y ddau Cyngor fel yr awdurdodau cynllunio lleol, wedi oedi cyn cymryd gweithred gorfodaeth cynllunio i rwystror modurdy rhag cael ei ddefnyddio i chwalu ceir ac fel iard scrap. Dywedant, oherwydd oedir Cynghorau, eu bod wedi methu a gwerthur busnes, a honnant fod gwerth yr eiddo wedii ddibrisio. Penderfynodd yr Ombwdsman fod oedi afresymol wedi bod a oedd yn gyfystyr â chamweinyddu ar ran y ddau Gyngor. Derbyniodd y Cyngor Sir fod y fath oedi wedi digwydd. Tynnodd yr achwynwyr eu cwynion i sylwr cyn-Gyngor Dosbarth yn mis Rhagfyr 1995, ond ni osodwyd rhybudd gorfodaeth ar berchennog y modurdy tan mis Chwefror 1999. Er ir Ombwdsman ddod ir casgliad for y camweinyddu wedi achosi peth anghyfiawnder ir achwynwyr, nid oedd wedii berswadio mair camweinyddu oedd yr unig, neur achos pennaf am y colledion busnes oedd yr achwynwyr yn eu honni. Roedd y dystiolaeth gan un or asiantiaid gwerthu a gyflogwyd gan yr achwynwyr yn amhendant ac roedd y llall heb ymateb. Hefyd, roedd yr achwynwyr wedi gorffen masnachu cyn cwynon uniongyrchol ir adran gynllunio. Ymddangosai ir Ombwdsman, felly, fod penderfyniad yr achwynwyr i orffen masnachu, ac felly i beidio a gwerthur busnes, ddim wedii achosin unig gan fethiant y Cyngor, fel yr awdurdod cynllunio lleol. Ystyriodd fod taliad o £1,000 a gynigiwyd gan y Cyngor ir achwynwyr yn ddigonol fel meddyginiaeth am y rhwystredigaeth ar ansicrwydd a oeddent wedi ddioddef o ganlyniad i gamweinyddur Cyngor. Awgrymodd ir Cyngor wneud y taliad hwn iddynt. Gofynnodd ir Cyngor, hefyd, i adolygu ei bolisiau ai ddulliau gorfodaeth ac i fabwysiadu polisiau a dulliau diwygiedig heb oedi. |
||
16 Medi 1999 |
|||