Ymchwiliadau

TAI

Gosodiad

2000/0036/N/187 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd a Phort Talbot

CRYNODEB O ADRODDIAD AR YMCHWILIAD A DERFYNWYD GAN YR OMBWDSMAN LLEOL DROS GYMRU

Roedd yr achwynydd wedi gwneud cais ir Cyngor am dy yn ei eiddo. Cwynodd fod y Cyngor wedi penderfynu peidio a gosod ty iddi oherwydd fod taliadau rent yn ddyledus ganddi am dy ym mherchenogaeth awdurdod blaenorol, sef Cyngor Bwrdeistref Port Talbot. Dywedodd y Cyngor fod yr achwynydd wedii hel allan or ty yna ym 1985. Cydnabur achwynydd ei bod wedi byw yn y ty yna hyd 1985, ond gwadodd mai hi oedd y tenant bryd hynny. Honnodd fod penderfyniad y Cyngor yn hollol afresymol, o dan yr amgylchiadau.

Yn ystod yr ymchwiliad ir gwyn, bu i gais yr achwynydd am dy Cyngor gael ei ystyried gan bwyllgor tenantiaeth tai y Cyngor, a phenderfynwyd na ddylai cais yr achwynydd am dy Cyngor gael ei ohirio nai oedi ymhellach gan yr ol-ddyled rent honedig (a gafwyd ei ddileu gan y Cyngor blaenorol, fodd bynnag). Bu ystyriaeth cais yr achwynydd gan y Cyngor gael ei ohirio ymhellach oherwydd fod yr achwynydd ddim yn siwr pa fath dy oedd hi eisiau a ble roedd am fyw. Yn y diwedd, cafodd swyddogion y Cyngor ddigon o wybodaeth oddi wrth yr achwynydd iw galluogi i brosesi ei chais, ac yna dywedodd wrth yr Ombwdsman ei bod yn fodlon ar weithgaredd y Cyngor i setloi chwyn. Felly, penderfynodd yr Ombwdsman i derfynu ei ymchwiliad a chyhoeddodd adroddiad byr yn cadarnhau ei benderfyniad.


29 Tachwedd 2000