Ymchwiliadau

TAI

Gosodiad ty

1999/0948/N/183 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd a Phort Talbot

Mae system y Cyngor o osod tai yn cynnwys rhoi pwyntiau i ymgeiswyr syn adlewyrchu eu hangen am dai. Maer ymgeiswyr ar angen fwyaf yn cael y pwyntiau uchaf. Pan ddaw ty yn wag, ar allweddi wedii dychwelyd gan y tenant, mae swyddogion yr adran dai yn anfon yr allweddi ir swyddogion sydd yn gyfrifol am gynnal eiddo yn yr adran eiddo er mwyn iddynt fedru archwilior eiddo gwag. Ar ol yr archwiliad, a gwaith adnewyddu wedii awdurdodi, maer swyddogion cynnal yn cwblhau ac yn dychwelyd y ffurflenni perthnasol ir swyddogion tai er mwyn iddynt wneud trefniadau i osod yr eiddo gwag i berson oedd eisiau ty. Er mwyn gosod eiddo, roedd y swyddogion tai yn chwilior gofrestr aros am yr ymgeisydd ar pwyntiau uchaf oedd yn ceisio am y fath eiddo yn yr ardal benodedig honno. Os bu i gynnig gael ei dderbyn gan ymgeisydd, ac ar ol ir gwaith adnewyddu ei gwblhau, roedd yr eiddo yn cael ei osod ir person a ddewiswyd or rhestr aros.

Roedd yr achwynydd yn ymgeisydd am eiddo efor Cyngor. Cwynodd fod y Cyngor, ym mis Rhagfyr 1999, wedi methu rhoi tenantiaeth iddi o eiddo a chredai fod yn addas iddi ar y pryd, ac yr oedd yn ei hawlio o dan system gosod tai y Cyngor. Tua diwedd mis Hydref 1999, daeth yr achwynydd i wybod fod ganddi fwy o bwyntiau nag unrhyw ymgeisydd arall oedd am gael ty pedair llofft mewn ardal arbennig. Ar 29 Tachwedd 1999, cafodd y Cyngor allweddi ty pedair llofft yn yr ardal honno oedd wedi dod yn wag yn ddiweddar. Erbyn 30 Tachwedd 1999, canfur achwynydd fod y ty yn wag, a chredodd ei fod iw osod iddi. Fodd bynnag, heb yn wybod iddi, penderfynodd swyddogion y Cyngor i ohirio holl osodiadau tai y Cyngor rhwng 10 Rhagfyr 1999 a 10 Ionawr 2000 oherwydd pryder ynglyn a fyddai gweithwyr y cwmniau nwy, trydan a dwr ar gael dros y Nadolig a Blwyddyn Newydd y Mileniwm i wneud gwaith archwilio ag ailgysylltu yn yr eiddo gwag. Erbyn ir gosodiadau eu hail-ddechrau ar 10 Ionawr 2000, nid oedd yr achwynydd ar frig y rhestr aros, ac yr oedd yr eiddo penodedig wedii osod i rywun arall.

Ni welodd yr Ombwdsman unrhyw sail dros farnur Cyngor am ohirio gosodiadau dros wyliaur Nadolig ar Flwyddyn Newydd, ond roedd or farn fod methiant y Cyngor i ddweud wrth yr aelodau ar ymgeiswyr (fel yr achwynydd) or trefniadau diwygiedig yn gyfystyr a chamweinyddu. Roedd y methiant yma wedii wneud yn waeth gan fod dim cyfathrebu chwaith rhwng swyddogion tai a swyddogion cynnal. Hefyd, nid oedd yna system i recordio trosglwyddo allweddi rhwng y swyddogion ac am gofnodi dyddiad derbyn y ffurflenni pwrpasol i ddechraur broses gosod. Darganfuodd yr Ombwdsman, hefyd, fod absenoldeb unrhyw benderfyniad pwyllgor yn cadarnhau gohirio atgyweirio eiddo gwag er mwyn osgoi gorwario ar y gyllideb yn anfoddhaol, yn enwedig gan fod y Cyngor, ar gyfartaledd, yn cymryd gormod o amser i ail-osod tai oi gymharu ag amserau awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, ni welodd yr Ombwdsman unrhyw dystiolaeth y byddair achwynydd wedi cael y ty, pebai system weinyddol y Cyngor wedi bod yn fwy clir ac yn fwy effeithiol, a bu ir achwynydd ai theulu gael eu hail-gartrefi gan y Cyngor erbyn ir Ombwdsman gyhoeddi ei adroddiad. Gan i fethiant y Cyngor iw chadw mewn gwybodaeth ynglyn ai chais achosi rhwystredigaeth iddi, argymhellodd yr Ombwdsman y dylair Cyngor ymddiheuro, a thalu £250 iddi am yr amser ar drafferth a chafodd i wneud ei chwyn ir Cyngor ac iddo ef. Er mwyn osgoir fath gamweinyddu ac anghyfiawnder yn y dyfodol, argymhellodd yr Ombwdsman ir Cyngor:-

a) gwblhau, heb ragor o oedi, ei adolygiad oi system gosod tai, a sicrhau fod ei ymarfer yn cydymffurfio ai gynllun cyhoeddedig;

b) sicrhau fod pob ymgeisydd am dai, ar aelodau etholedig, yn llawn ymwybodol oi drefniadau am osod tai dros wyliaur Nadolig ar Flwyddyn Newydd sydd i ddod;

c) sicrhau fod cofnodion ysgrifenedig digonol yn cael eu cadw ynglyn ag allweddi eiddo gwag ac am drosglwyddiad ffurflenni perthnasol rhwng swyddogion tai a swyddogion cynnal;

d) ymateb yn brydlon ac yn gynhwysfawr i gwynion anfonwyd ato gan yr Ombwdsman.


16 Tachwedd 2000