![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
ADDYSG A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL Plentyn a phroblemau ymddygiadol ac mewn gofal awdurdod lleol 1999/0425/NT/136 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd Bachgen pedair-ar-ddeg oed oedd yr achwynydd oedd yn cael ei warchod gan y Cyngor. Cwynodd, drwy ei fodryb, fod y Cyngor wedi methu darparu addysg priodol iddo, pan oedd yn byw mewn cartrefi plant y Cyngor. Roedd gan y Cyngor gyfrifoldeb rhieni dros y bachgen ac o dan ddyletswydd statudol i hyrwyddo ac i ddiogelu ei lesiant. Hefyd, y Cyngor oedd yr awdurdod addysg lleol a dyletswydd, o dan y gyfraith, i wneud trefniadau i ddarparu addysg priodol i blant o oedran ysgol gorfodol (fel yr achwynydd) nad oeddynt yn derbyn addysg priodol oherwydd iddynt gael eu cau allan or ysgol, neu am resymau eraill. Maer gyfraith, hefyd, yn gofyn i riant unrhyw blentyn, neu unrhyw berson sydd a gofal rhiant dros y plentyn, i sicrhau fod y plentyn yna yn derbyn addysg priodol, effeithiol, llawn-amser naill ai drwy fynychu ysgol yn reolaidd neu mewn ryw ffordd arall. Fodd bynnag, darganfuodd yr Ombwdsman fod y bachgen heb dderbyn unrhyw fath o addysg rhwng Tachwedd 1998 a Chwefror 2000 (ond am rai wythnosau yn ystod Mai a Mehefin 1999 pan oedd yn mynychu uned hyfforddiant gartref y Cyngor). Ystyriodd yr Ombwdsman fod methiant y Cyngor, fel awdurdod y gwasanaethau cymdeithasol ac fel yr awdurdod addysg lleol, i sicrhau fod y bachgen yn derbyn addysg perthnasol yn gyfystyr a chamweinyddu. Er fod llawer o adnoddau wediu defnyddio gan y Cyngor ac eraill i geisio datrys problemaur bachgen (bu i 20 o swyddogion y Cyngor a oedd wedi ymdrin ac achos y bachgen gael cyfweliad yn ystod yr ymchwiliad), roedd y gwaith yna yn aneffeithiol i raddau helaeth, a bychan ei werth ir achwynydd am fod diffyg cyd-drefniant a rheolaeth glir yng ngweithgaredd ac ymdrechion y Cyngor. Erbyn ir Ombwdsman gyhoeddi ei adroddiad, roedd y bachgen wedi setlon dda mewn ysgol newydd, ond roedd yn gweld mathemateg yn anodd. Oni bai am fathemateg, roedd y bachgen yn gwneud yn dda yn ei bynciau ysgol eraill. Roedd ei bennaeth blwyddyn yn yr ysgol wedi dweud ei fod yn gwneud ymdrech sylweddol, ac yn ceisio dal i fyny ar yr addysg a gollwyd. Dywedodd yr Ombwdsman wrth y Cyngor y dylai roi meddyginiaeth am yr anghyfiawnder a ddioddefodd y bachgen drwy drefnu asesiad oi berfformiad ym mathemateg, ac os byddair asesiad yna yn darganfod y dylair bachgen gael hyfforddiant ychwanegol ym mathemateg er mwyn ei helpu, argymhellodd ir Cyngor i drefnu a thalu am y fath hyfforddiant ychwanegol iddo. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad, hefyd, fod modryb y bachgen wedi dioddef anghyfiawnder o ganlyniad i fethiant y Cyngor i ymateb iw chwyn. Argymhellodd, felly, ir Cyngor dalu £150 iddi am ei hamser ai thrafferth i ddilyn ei chwyn efor Cyngor ar Ombwdsman. Er mwyn osgoir camweinyddu ar anghyfiawnder, argymhellodd yr Ombwdsman ir Cyngor i adolygu ei systemau, yn gyffredinol, ac yn arbennig i adolygui gynllun cefnogaeth ymddygiad wrth roi addysg i blant o dan ei ofal, ei drefniadau i sicrhau cysylltiad digonol a chydweithrediad rhwng y gwahanol adrannau sydd yn gyfrifol am addysg plant yn ei ofal, y trefniadau am fynediad plant a phroblemau ymddygiadol i ysgolion o fewn ei ardal ai drefniadau i ddelio a chwynion gan berthynas am les plentyn o dan ei ofal. Ni fu ir Ombwdsman gynnal cwyn am y ffordd y bu i fam y bachgen, heb ei wybodaeth, gael rhif teliffon y cartref plant lle roedd yn aros, na chwyn am y ffordd y bu ir Cyngor weithredu i amddiffyn y bachgen oddi wrth partner ei fam, na chwyn am y ffordd y bu ir Cyngor drefnu ir heddlu i ymchwilio cefndir modryb a thadcur bachgen. Yn yr un modd, ni chefnogodd gwyn y bachgen fod y Cyngor wedi methu ymchwilio ei gwynion am y diffyg addysg ac am y bwlio yn y cartref plant lle roedd yn aros. |
||
28 Medi 2000 |
|||