Ymchwiliadau

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Cartrefi Preswyl

1999/0824/N/173 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd a Phort Talbot

Bu ir achwynwr fod yn berchennog cartref preifat ir henoed, ond yn fuan cyn gwneud ei gwyn, gwerthodd y cartref i berchennog newydd. Roedd yn honni fod ei fusnes wedi dioddef o ganlyniad i ragfarn ar ran y Cyngor yn erbyn perchnogion cartrefi gofal preswyl a nyrsio preifat. I gadarnhau ei gwyn, honnodd fod gweithiwr cymdeithasol y Cyngor wedi cynghori person oedrannus nad oedd lle mewn unrhyw gartref preswyl preifat yn yr ardal lle roedd y person oedrannus eisiau byw, er fod ganddo ef (yr achwynwr) le yn ei gartref preswyl ei hun. Honnodd fod y gweithiwr cymdeithasol, yn hytrach, wedi cynghorir person oedrannus i symud i gartref ym mherchenogaeth y Cyngor sawl milltir i ffwrdd o le yr oedd y person oedrannus eisiau byw. Dywedodd yr achwynwr,hefyd, fod y Cyngor, yn annheg, yn dyrannu mwy o arian ar gyfer llety ir henoed yng nghartrefi ei hun nac oedd yn dyrannu ar gyfer llety ir henoed mewn cartrefi preifat.

Dywedodd yr Ombwdsman yn ei adroddiad y byddai rhaid iddo, os i wneud dyfarniad o gamweinyddu ar ran y Cyngor, fel yr honnar achwynwr, fod yn fodlon, ar gydbwysedd tebygolrwydd, fod y gweithiwr cymdeithasol wedi camarwain y person oedrannus yn fwriadol a dweud wrtho mewn termau diamwys fod dim lle mewn cartrefi preswyl yn y dre lle roedd cartref yr achwynwyr wedii leoli, pan oedd yn gwybod, neu ddylai wybod, fod lle ar gael yn y cartrefi yma. Nid oedd yr Ombwdsman yn fodlon ar y pwynt yma. Dywedodd, ir gwrthwyneb, ei fod yn fodlon fod y swyddog wedi rhoi ei chyngor proffesiynol ir person oedrannus ac unrhyw wybodaeth oedd ganddi yn ddidwylledd yn ystod ei chyfarfod ag ef, ac yn ôl beth yr oedd hi yn ystyried oedd yn llesol ir person oedrannus. Roedd yr Ombwdsman yn fodlon , hefyd, nad oedd y swyddog wedi bwriadu camarwain y person oedrannus. Dywedodd, fodd bynnag, y byddai unrhyw gamddealltwriaeth neu ddryswch wedii osgoi pe byddair swyddog wedi rhoi rhestr gynhwysfawr or cartrefi cofrestredig yn y Bwrdeistref ir person oedrannus fel y gallai ef, neu rywun ar ei ran, wneud ymholiadau pellach eu hunain, os mynnent. Fodd bynnag, nid oedd yr Ombwdsman yn ystyried fod y diffyg yma, yn ei hunan, yn gyfystyr a chamweinyddu. Ymhellach, hyd yn oed pe byddai wedi darganfod fod camweinyddu yn y modd y rhoddodd y swyddog gyngor ir person oedrannus, roedd yn eglur nad oedd anghyfiawnder wedi deillio ir achwynwr oedd yn tarddu or cyngor hynny oherwydd ir person oedrannus, yn y diwedd, symud i fyw i gartref preswyl yr achwynwr, beth bynnag.

Mor belled ag oedd y gwyn ynglyn a system y Cyngor o gyllido yn bodoli, dywedodd yr Ombwdsman efallai fod yna gwestiynau yn codi or hyn a ddyweddodd yr achwynydd a ddylent gael eu hystyried gan archwilwyr y Cyngor ai archwilwyr gwerth gorau o safbwynt gwerth am arian, ond nid oedd yr ystyriaethau yma yn faterion iddo ef iw penderfynu. Derbyniodd eglurhad y Cyngor, gan ystyried natur ei gyfrifoldeb fel perchennog a rheolwr cartrefi preswyl ei hun, ac fel cyflogwr staff, fod ei wariant, yn ei gyllideb blynyddol, ddim yn newid llawer ynghyd a newidiadau o bryd iw gilydd yn nifer y preswylwyr yn y cartrefi hynny. Rhaid oedd ir Cyngor dalur costau o redeg y cartrefi yma heb ystyried y nifer o breswylwyr ynddynt mewn mis arbennig neu mewn blwyddyn ariannol. Maer gost o roi cymorth i rai mewn gofal preswyl preifat (fel budd-dal nawdd cymdeithasol), ar y llaw arall, yn newid, yn aml, o fis i fis, ac felly rhaid ir Cyngor sicrhau fod gaddo ddigon o arian gerllaw bob mis i gwrdd ac unrhyw amrywiadau. Beth bynnag fo haeddiannau y fath system o gyfrifo, ni welodd yr Ombwdsman unrhyw dystiolaeth o ragfarn ynddi a fyddai yn gyfystyr a chamweinyddu. Beth bynnag, fel yn achos yr honiad yngly^n ar person oedrannus, ni gyflwynodd yr achwynydd unrhyw dystiolaeth i ddangos fod perfformiad gwael ei fusnes wedii achosi gan y ffordd roedd y Cyngor yn rheoli cyllideb y gwasanaethau cymdeithasol.

Felly, ni chadarnhaodd yr Ombwdsman y gwyn, ac ni ddaeth ir casgliad fod yna gamweinyddu yn y modd y deliodd y Cyngor ar achwynydd. Fodd bynnag, argymhellodd ir Cyngor sicrhau fod y gweithwyr cymdeithasol, yn reolaidd, yn cynnwys yn y gwybodaeth a roddant i gleientiaid am ofal mewn cartrefi preswyl a nyrsio, restr o bob cartref nyrsio a phreswyl cofrestredig o fewn ei ardal fel bod pob ymgeisydd yn ymwybodol or opsiynau sydd gennynt cyn iddynt wneud eu penderfyniad terfynol.


27 Medi 2000