![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
CYNLLUNIO Caniatad 1999/0809/AN/133, 2000/0046/AN/140 & 2000/0109/AN/143 - Cyngor Sir Ynys Mon Roedd yr achwynwyr yn berchen cartrefi gwyliau mewn pentref yn Ynys Môn. Bu iddynt gwyno am y ffordd y rhoddodd y Cyngor Sir ganiatad cynllunio am newid defnydd bwthyn gwyliau ger eu cartrefi i dy bwyta. Darganfuodd yr Ombwdsman fod adroddiadaur swyddogion ir Pwyllgor Cynllunio a roddodd ganiatad cynllunio yn hollol annigonol. Roedd adroddiadau i ddau Bwyllgor Cynllunio, ar wahân, yn cynnwys dim ond disgrifiad byr o gynlluniaur ymgeisydd heb resymau dros argymhelliad y swyddogion i roi caniatad. Nid oedd adroddiadaur swyddogion yn sôn am y polisiau datblygu perthnasol, unrhyw hanes cynllunior safle, unrhyw ddisgrifiad o ddefnydd anawdurdodedig presennol neu ddatblygiad, unrhyw gyngor am ba weithred gorfodaeth oedd yn agored ir Cyngor iw ddefnyddio (os o gwbl), nag unrhyw asesiad proffesiynol o effaith tebygol y datblygiad ar fwynderau cymdogion, ar heolydd gerllaw, ac ar wasanaethau cyhoeddus. Nid oedd yr adroddiadau yn cynnwys unrhyw ddadansoddiad technegol or cynllun yng ngoleunir polisiau cynllunio lleol yn ymwneud â pharcio ar y safle, ac nid oedd unrhyw gyfeiriad at effaith debygol y cynllun ar y tirwedd, gan ystyried fod y safle o fewn ardal o harddwch naturiol arbennig Roedd yn amlwg or cyfweliadau efo deg aelod or Pwyllgor Cynllunio fod yr aelodau o dan anfantais oherwydd annigonolrwydd adroddiadaur swyddogion. Diffygion eraill oedd methiant cadw cofnodion ysgrifenedig o ymweliadau swyddogion âr safle, absenoldeb cofnodion arolwg parcio, methiant i ateb llythyrau, a geirio amwys a defnydd amrhiodol o jargon mewn penderfyniadau yn honni i roi awdurdod i swyddogion cynllunio i weithredu ar ran y Cyngor. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod y ffordd anfoddhaol yr adroddwyd y ceisiadau cynllunio ir Pwyllgor Cynllunio, ynghyd âr diffygion eraill, yn gyfystyr â chamweinyddu gan y Cyngor Sir. Fodd bynnag, nid oedd or farn y byddai penderfyniad y Cyngor i roi caniatad cynllunio yn wahanol hyd yn oed pebai dim camweinyddu wedi digwydd. Roedd gwrthwynebiadaur achwynwyr yn wybyddus i aelodaur pwyllgor cyn y cyfarfod. Hefyd, roedd nifer or aelodau yn gyfarwydd âr safle. Er fod adroddiadau ysgrifenedig y swyddogion yn hollol annigonol, bu i sawl un or swyddogion ystyried materion a godwyd ar ran yr achwynwyr cyn cyrraedd eu hargymhelliad y dylair Cyngor roi caniatad cynllunio. Er ir pwyllgor ddim ystyried y cwestiwn o gymryd achos gorfodaeth i ddelio â defnydd anawdurdodedig yn y gorffennol yn ymwneud âr bwthyn, nid oedd yr achwynwyr na neb or cyhoedd wedi cwyno am y fath ddefnydd anawdurdodedig nes ir perchnogion gyflwyno cais cynllunio ym mis Chwefror 1999. Roedd yn ymddangos fod yr achwynwyr yn derbyn peth o ddefnydd busnes yr eiddo, a bu ir bwthyn ei ddefnyddio fel siop a lle bwyta ers y saithdegau. Roedd penderfyniad yr aelodau i osod caniatad cynllunio yn awgrymu y byddent, hefyd, wedi ymarfer eu discresiwn i beidio â chymryd gweithred gorfodaeth, os byddair mater penodol yma wedii osod ou blaen ac, hefyd, byddai rhaid iddynt gofio y cyfnod amser statudol ar unrhyw weithred gorfodaeth. Gan fod yr Ombwdsman yn methu dod ir casgliad y byddair penderfyniad yn un gwahanol ond am y camweinyddu, yn yr un modd ni allair Ombwdsman ddyfarnu fod y camweinyddu wedi achosi anghyfiawnder ir achwynwyr. Fodd bynnag, argymhellodd yr Ombwdsman y dylair Cyngor adolygur ffordd y mae ceisiadau cynllunio yn cael eu hadrodd ir Pwyllgor Cynllunio er mwyn gwneud penderfyniad. Dywedodd nad oedd yn annisgwyl, yn ôl amgylchiadaur achos yma, fod yr achwynwyr yn datgan amheuaeth am y rhesymau dros benderfyniad y Cyngor ac eu bod yn credu fod y penderfyniad wedi deillio o ryw gamymddygiad gan aelodau or pwyllgor. Oherwydd annigonolrwydd ei weithrediadau gweinyddol, bu ir Cyngor wneud ei hyn yn agored i amheuon yr achwynwyr. Roedd o fudd ir Cyngor ei hun fod ei systemau yn cydymffurfio âr cyngor a roddwyd i awdurdodau lleol mewn cyfarwyddyd blaenorol gan yr Ombwdsman, gan Bwyllgor Materion Cymraeg Tyr Cyffredin, gan Bwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, a gan Gymdeithas Llywodraeth Leol. Dywedodd yr Ombwdsman y dylai penderfyniadau cynllunior Cyngor gael eu gweld wediu selio ar asesiad trylwyr a phroffesiynol mewn adroddiad ysgrifenedig cynhwysfawr, au gwneud ar ôl ystyriaeth fanwl or agweddau cynllunio perthnasol gan swyddogion ac aelodau. Byddai rhaid ir Cyngor, hefyd, i ystyried hyfforddi aelodau newydd er mwyn iddynt ddeall yn llawn y fframwaith gynllunio y maer Cyngor, fel yr awdurdod cynllunio lleol, yn ei gweithredu. Yn olaf, gofynnodd yr Ombwdsman ir Cyngor i sicrhau, lle mae awdurdod yn cael ei ddirprwyo i swyddogion, fod manylion a thermaur dirprwyaeth, ac yn enwedig unrhyw gyfyngiad ar y dirprwyaeth, yn glir ym mhenderfyniad y pwyllgor ac yng nghofnodion or penderfyniad hynny. |
||
14 Medi 2000 |
|||