![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL Cofrestru Cartrefi Preswyl 99/0585/N/161 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd a Phort Talbot Roedd yr achwynydd yn berchen cartref nyrsio preifat ir henoed. Roedd ganddo dri gwely (allan o un-ar-hugain o welyau nyrsio) yn cael eu defnyddio er mwyn gofal preswyl a nyrsio, fel ei gilydd, ac wedi cael eu cofrestru gan y Cyngor (drwy ei asiant, yr Uned Gofrestru ac Archwilio, o dan Gyngor Sir a Dinas Abertawe). Darganfuodd yr Ombwdsman, oherwydd camgymeriad ar ran swyddogion yr Uned, fod y rhestr o gartrefi a ddefnyddiwyd gan y Gyngor i roi gwybodaeth ir rheini oedd yn ceisio gofal preswyl, ddim wedi cael ei diweddaru i gynnwys tri gwely preswyl yr achwynwr. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod y camgymeriad yn gyfystyr a chamweinyddu a oedd wedii wneud yn waeth gan wyth mis o oedi cyn penderfynu cais yr achwynwr am gofrestriad, gan gofnodion annigonol y Cyngor, a gan fod camgymeriadau yn y dyddiadau a ddangoswyd ar restraur Cyngor o gartrefi cofrestredig. Roedd yn ymddangos fod yna ddryswch yng ngweinyddiaeth y Cyngor, a methiant cyfathrebu rhwng yr Uned ac adran y Cyngor oedd yn gyfrifol am hysbysur cyhoedd am y dewis or opsiynau am ofal preswyl oedd ar gael iddynt. Bu ir achwynwr honni fod camgymeriad y Cyngor wedi achosi iw fusnes golli arian. Fodd bynnag, nid oedd ganddo unrhyw dystiolaeth penodol i gyfiawnhau hyn. Dywedodd yr Ombwdsman mae cyfrifoldeb perchennog cartref cofrestredig yw hysbysur cyfleusterau i gleientiaid arfaethedig. Hyd yn oed pebai rhestr y Cyngor wedii adolygun gynharach, ni allair Ombwdsman ddweud os fyddai unrhyw un oedd yn ceisio manylion cartref yr achwynwr wedi dewis gwely preswyl yn ei gartref. Er hynny, roedd hawl gan yr achwynwr i ddisgwyl ir Cyngor gadw cofnodion cywir or gwasanaeth yr oedd yn ei ddarparu er mwyn ir cyhoedd gael y cyfle i ystyried beth oedd ganddo ef ai gartref iw gynnig. Bu ir achwynwr gollir cyfle i gael ei gartref wedii hysbysun gywir ar restr y Cyngor, ac ni fydd fyth yn gwybod os fyddai aelodau or cyhoedd wedi holi am ofal preswyl yn ei gartref pebai rhestr y Cyngor yn gywir. Argymhellodd yr Ombwdsman ir Cyngor dalu £300 ir achwynydd. Gofynnodd yr Ombwdsman, hefyd, ir Cyngor i adolygui systemau gweinyddol, er mwyn sicrhau fod y gwallau ar camgymeriadau a ddarganfuwyd ddim yn ail-ddigwydd. |
||
05 Medi 2000 |
|||