Ymchwiliadau

CYNLLUNIO

Caniatad

1999/0884/PK1/019 - Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Roedd y gwyn yn ymwneud ag oedi ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog cyn cymryd gweithrediadau cymwys i sicrhau fod cartref symudol a oedd wedii osod, heb ganiatad cynllunio, ar dir ger cartrefir achwynwyr ym 1992, yn cael ei symud oddi yno. Bu i Bwyllgor Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (yr Awdurdod blaenorol) roi caniatad cynllunio dros dro am dair blynedd ir tir-berchennog, ond roedd y caniatad yma yn cynnwys amod oedd yn mynnu ir cartref symudol gael ei symud or tir cyn 30 Medi 1995. Gan ir cartref symudol ddim ei symud, penderfynodd y Pwyllgor blaenorol ar 1 Rhagfyr 1995 i gymryd camau gorfodaeth. Fodd bynnag, ni osodwyd rhybudd tor-amod ir tir-berchennog yn gofyn iddo symud y cartref symudol (a phob atodiad) o fewn chwe mis, nes 7 Ionawr 1997, ac erbyn hyn daeth y mater o fewn cyfrifoldeb Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ni chafodd y cartref symudol ei symud o fewn y chwe mis a hysbyswyd yn y rhybudd, a phenderfynodd yr Awrdurdod i erlyn y tir-berchennog. Ni gymerwyd camau i ddechrau achos cyfreithiol, ac ni fu unrhyw weithrediad pellach gan yr Awdurdod ynglyn ar cartref symudol hyd 25 Hydref 1999 pan ofynnodd un or achwynwyr beth oedd yr Awdurdod yn ei wneud. Ar ol hyn, cyflwynodd y tir-berchennog gais cynllunio newydd i gadwr cartref symudol ar y tir, ond gwrthodwyd y cais yma gan yr Awdurdod ym Mehefin 2000. Cyn i adroddiad yr Ombwdsman gael ei gyhoeddi, dywedodd un or achwynwyr wrth yr Ombwdsman fod rhan fwyaf or cartref symudol wedii dynnu oddi ar y safle.

Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod yr oedi o bron bum mlynedd cyn symud y cartref symudol mor afresymol nes ei fod yn gyfartal a chamweinyddu. Bu ir camweinyddu yma fynd yn waeth oherwydd cofnodion annigonol yr Awdurdod. Fodd bynnag, darganfuodd, gan fod y cartref symudol wedii leoli tua 100 medr o gartref yr achwynydd agosaf, roedd yr anghyfiawnder ir achwynwyr yn gyfyng. Penderfynodd, felly, maer feddyginiaeth briodol oedd ir Awdurdod sicrhau fod perchennog y cartref symudol yn cydymffurfion llawn a thermaur rhybudd a gyflwynwyd iddo ym mis Ionawr 1997, ac ir Awdurdod adolygu ei systemau gorfodaeth cynllunio yn enwedig ei systemau i gofnodi ac i fonitro cwynion am dor-reolaeth cynllunio.


03 Awst 2000