Ymchwiliadau

CYNLLUNIO

Caniatad

99/0191/PK1/016 - Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - Cynllunio

Cwmni oedd yn berchen hawliau pysgota mewn afon o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr achwynydd. Roedd ganddo hawl tramwy dros dir cyfagos ir afon. Cwynodd fod y Parc Cenedlaethol wedi rhoi caniatad cynllunio i ddefnyddior tir cyfagos fel cwrs golff heb ystyried y perygl i ddefnyddwyr yr hawl tramwy a physgotwyr gan y defnydd hwnnw. Dywed, hefyd, fod swyddog monitror Parc Cenedlaethol wedi methu ateb gohebiaeth am dros gyfnod o amser.

Roedd yr Ombwdsman yn fodlon fod diogelwch defnyddwyr yr hawl tramwy ar pysgotwyr yr afon gerllaw yn ystyriaeth cynllunio perthnasol wrth benderfynu a ddylai caniatad cynllunio (au peidio) gael ei roi ir cwrs golff. Fodd bynnag, er ir Cwmni ddatgan pryder am y mater diogelwch, nid oedd yr Ombwdsman yn fodlon fod y pryderon hynny wedi cael eu dwyn yn glir i sylw aelodaur Pwyllgor Cynllunio neu ir mater diogelwch gael trafodaeth ddigonol. Cynghorwyd y Pwyllgor gan y swyddogion fod pryder yr achwynydd yn fater sifil cyfreithiol rhwng ddau berchennog tir am ymyrraeth a hawl tramwy yn unig, ac nid yn fater a ddylai gael ystyriaeth faterol o fewn y broses cynllunio. Fodd bynnag, nid oedd yr Ombwdsman yn fodlon fod y mater diogelwch wedii wahaniaethun ddigonol or mater hawl tramwy preifat ag oedd, ar lefel arwynebol, yn fater cyfreithiol rhwng y ddau berchennog tir. Roedd y cwestiwn o berygl ir pysgotwyr ac eraill, fodd bynnag, yn ymledur ystyriaeth i fater cynllunio materol.

Bu ir camweinyddu gael ei ddwysau gan fethiant cyfreithiwr y Parc Cenedlaethol i gymryd cyfarwyddyd newydd oddi wrth y swyddogion cynllunio ac, hefyd, oddi wrth y Pwyllgor Cynllunio ar y pryder a fynegwyd gan swyddog iechyd yr amgylchedd Cyngor Sir Powys am ddiogelwch ar ôl ir Pwyllgor Cynllunio benderfynu i roi caniatad cynllunio ond cyn ir caniatad gael ei osod ir ymgeisydd. (Bu cytundeb cynllunio rhwng Awdurdod y Parc a datblygwyr y cwrs golff.) Nid oedd y Parc Cenedlaethol wedii gyfyngu, hyd nes ir caniatad gael ei osod ac, felly, medrair Pwyllgor Cynllunio fod wedi ail-ystyried y cwestiwn yma yng ngoleuni pryder y Cyngor Sir ar achwynydd am ddiogelwch. Yn lle cymryd cyfarwyddyd newydd neu dweud wrth y swyddogion cynllunio, bu i gyfreithiwr y Parc Cenedlaethol gwblhaur cytundeb cynllunio efor datblygwyr ac ir caniatad cynllunio gael ei osod heb ir mater diogelwch gael ystyriaeth ddigonol. Bu ir camweinyddu gael ei ddwysau ymhellach gan fethiant niferus cyfreithiwr y Parc Cenedlaethol i ateb gohebiaeth iddo oddi wrth y Cyngor Sir, y cyngor cymuned, yr achwynydd a chyfreithwyr yr achwynydd.

Nid oes swyddogaeth gan yr Ombwdsman i gwestiynu haeddiannaur materion diogelwch. Yn y diwedd, mater ir Parc Cenedlaethol yw hynny. Dywedodd yr Ombwdsman, fodd bynnag, y dylair Parc Cenedlaethol ystyried y mater yma yngly^n a diogelwch yn awr, yn enwedig gan ei fod wedi methu gwneud hyn or blaen. Dywedodd, os dawr Parc Cenedlaethol ir casgliad na ddylai caniatad cynllunio fod wedii roi, neu y dylai amodau priodol wediu gosod ar y caniatad i warchod y pysgotwyr a defnyddwyr yr hawl tramwy, dylai ystyried gwneud gorchymyn terfynu o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref, 1990, gan osod amodau priodol yn ymwneud a diogelwch ar ddefnydd y tir fel cwrs golff. Gofynnodd hefyd Ir Parc Cenedlaethol i dalu costaur achwynydd drwy gyfathrebu ar Parc ynglyn ar mater diogelwch am bron bedair blynedd.


31 Mawrth 2000