![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL Gofal Plant 99/0461/BR/119 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Penybont-ar-Ogwr Cwynodd yr achwynwyr ir Ombwdsman fod y Cyngor wedi methu gweithredu ar ôl iw merch ddweud wrth athro yn ei hysgol ei bod wedi chael ei cham-drin yn rhywiol gan ei llys-ddatcu. Yn ei adroddiad, daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod y ferch wedi datgelu iw hathro yn ei hysgol ar ddydd Gwener, 3 Gorffennaf 1998 iddi gael ei cham-drin yn rhywiol gan ei llys-ddatcu. (Bu ir llys-ddatcu, yn hwyrach, gael ei ddyfarnun euog ai garcharu am dramgwyddiadau o anwedduster yn erbyn y ferch dros sawl blwyddyn.) Ceisiodd yr athro gysylltu ag adran y gwasanaethau cymdeithasol, ond pan y gwnaethpwyd hynny (ychydig cyn pump or gloch y prynhawn ar ddydd Gwener, 3 Gorffennaf 1998), nid oedd neb ar gael a dim ond rhif argyfwng oedd yn agored. Penderfynodd y prifathro nad oedd y ferch mewn perygl ofnadwy dros y penwythnos, a bu ir ysgol gysylltu ag adran y gwasanaethau cymdeithasol eto fore dydd Llun, 6 Gorffennaf 1998. Nid oedd gan adran y gwasanaethau cymdeithasol unrhyw gofnod o gysylltiad oddi wrth yr ysgol y diwrnod hwnnw, ond daeth yr Ombwdsman ir casgliad yn ôl y dystiolaeth a ddaeth iw ran yn ystod yr ymchwiliad fod yr athro wedi adrodd datgeliadaur ferch ir swyddog ar ddyletswydd yn adran y gwasanaethau cymdeithasol. Ni chymerwyd unrhyw weithred gan adran y gwasanaethau cymdeithasol fel ymateb i atgyfeiriad y ferch gan yr ysgol, a daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod y Cyngor wedi methu yn ei ddyletswydd i gymryd camau uniongyrchol i ymateb ir datgeliad ac i warchod y ferch rhag rhagor o niwed. Parhaodd y methiant am ryw dair wythnos arall hyd nes ir ferch ddweud wrth ei rhieni am y cam-driniaeth a ddioddefodd. Roedd methiant y Cyngor yn gyfystyr â chamweinyddu. Pryder ychwanegol ir Ombwdsman oedd y dystiolaeth fod y methiant i ddilyn gweithrediadau gwarchod plant yng nghyswllt y ferch ddim yn achos ar ei ben ei hun. Roedd disgybl arall or un ysgol wedii hatgyfeirio gan staff i adran y gwasanaethau cymdeithasol ym mis Mehefin 1998, ond nid oedd tystiolaeth fod ymholiadau priodol wediu gwneud a chaewyd y ffeil ar achos y disgybl heb unrhyw eglurhad. Bu ir disgybl hwnnw gael ei hatgyfeirio eto i adran y gwasanaethau cymdeithasol gan y prifathro ym mis Tachwedd 1998, ond er y rhoddwyd ystyriaeth ddechreuol ir achos, nid oedd cofnod o unrhyw weithred pellach gan adran y gwasanaethau cymdeithasol nag unrhyw dystiolaeth or rhesymau am beidio a dilyn gweithrediadau gwarchod plant. Bu i fethiannau adran y gwasanaethau cymdeithasol gael eu dwysau, ac efallai fod yn briodoladwy, ar gofnodion hollol annigonol yr adran. Bu i fethiannau eraill, hefyd, ddwysaur camweinyddu. Er i ganllawiau gael eu cyhoeddi i ysgolion ym 1997, methodd yr ysgol ddilyn atgyfeiriad y ferch i adran y gwasanaethau cymdeithasol yn ysgrifenedig. Roedd dulliau adran y gwasanaethau cymdeithasol yn gofyn ir atgyfeiriwr gael gwybodaeth or penderfyniad terfynol yngly^n ag oedd ymchwiliad yn angenrheidiol neu beidio. Maer dystiolaeth yn dangos nad oedd ysgolion yn cael gwybodaeth am unrhyw weithred a wnaethpwyd mewn ymateb i atgyfeiriad disgybl. Ymddengys fod y cysylltiad rhwng ysgolion ac adran y gwasanaethau cymdeithasol yn annigonol. Gadawyd y fath sefyllfa i ddatblygu er fod canllawiau statudol wediu cyhoeddi gan y llywodraeth o dan ddeddfwriaeth yn ymwneud a gwarchod plant. Roedd yr Ombwdsman yn bryderus, hefyd, am fethiant y Cyngor i ymateb mewn ffordd ddilys i lythyrau oddi wrth cyfreithwyr yr achwynwyr. Bu cyfathrebu rhwng y cyfreithwyr ac adrannau addysg a gwasanaethau cymdeithasol y Cyngor am ryw naw mis ond, er difrifoldeb y gwyn, ni chafodd y cyfreithwyr ymateb clir na chyd-drefnedig oddi wrth y Cyngor. Roedd yr Ombwdsman y fodlon fod anghyfiawnder wedi deillio ir ferch ai rhieni o ganlyniad i gamweinyddur Cyngor. Bu i llys-ddatgur ferch gael ei ddyfarnun euog o ymosod yn anweddus arni dros gyfnod o amser rhwng Medi 1991 a Medi 1998 pan gafodd ei arestio. Aeth yr ymosodiadau ymlaen ar ôl dydd Gwener,3 Gorffennaf 1998, y dyddiad dywedodd y ferch am y mater wrth ei hathro. Os byddair Cyngor wedi cario allan ei ddyletswyddau i warchod y ferch ar unwaith ar ôl iddi ddatguddio yr ymosodiadau arni, maen debygol na fyddai wedi cael ei cham-drin eto gan ei llys-ddatcu. Roedd methiant y Cyngor iw gwarchod yn anghyfiawnder difrifol iddi. Ni ddywedodd wrth unrhyw oedolyn cyn 3 Gorffennaf gan fod y camdriniwr wedi dweud wrthi na fyddai neb yn ei chredu. Dywedodd y ferch wrth ei mam na ddatgelodd y mater i unrhyw un cyn hynny gan fod cywilydd arni, ac ofn na fyddai neb yn ei chredu. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod absenoldeb unrhyw ymateb ar ôl iddi ddweud wrth ei hathro, yn ddiamau, wedi cadarnhau cred y ferch na fyddai neb yn ei chredu ac y byddai ei chwyn yn cael ei anwybyddu. Roedd hyn yn anghyfiawnder ychwanegol iddi. Bu ir rhieni, hefyd, ddioddef anghyfiawnder. Roedd yr hawl gennynt i ddisgwyl ir Cyngor gymryd camau prydlon i warchod ei merch oddi wrth gam-driniaeth pellach ac, hefyd, hawl i ddisgwyl ir Cyngor i ymateb yn brydlon ac yn gynhwysfawr ir gwyn a wnaethpwyd gennynt drwy eu cyfreithwyr. Bu iddynt hwy eu hunain ddod ar mater i sylwr heddlu ar unwaith ar ôl ir ferch ddweud wrthynt. Cytunodd yr Ombwdsman ar achwynwyr eu bod hwy, au merch, wedi cael eu gadael i lawr yn ofnadwy gan y Cyngor. Gofynnodd yr Ombwdsman ir Cyngor i ystyried yn ofalus ffyrdd y medrai helpur ferch i oresgyn beth a wnaethpwyd iddi ac i wneud y gorau oi gyrfa academaidd ac unrhyw gyfleon ynglyn ai gyrfa ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon. Efallai medr y Cyngor ei helpun ariannol neu mewn rhyw ffordd arall gydai haddysg bellach, hyfforddiant ai datblygiad personol. Maer Ombwdsman yn gobeithio fydd y Cyngor, fel yr awdurdod addysg a gwasanaethau cymdeithasol lleol, gan ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad ei swyddogion yn llawn, yn medru darganfod ffyrdd i gydnabod ac i ddangos, mewn ffordd briodol, ei edifeirwch am ei fethiannau. Awgrymodd yr Ombwdsman y dylai swyddog, (neu swyddogion), hyn or Cyngor ymweld âr ferch i ymddiheuro iddi yn bersonol ac iw sicrhau ei bod yn iawn i ddweud wrth ei hathro a gwneud yn siwr na fydd yn agored i unrhyw edliwiad oddi wrth teulu ei llys-ddatcu. Awgrymodd y dylai cynrychiolwyr y Cyngor drafod, hefyd, efoi rhieni ffyrdd y gallair Cyngor helpu eu merch wneud y gorau oi dyfodol. Gofynnodd ir Cyngor iw wybyddu pan yn ymateb iw adroddiad pa gamau roedd yn bwriadu eu cymryd yng nghyswllt ei awgrymiadau. Yn ychwanegol, argymhellodd yr Ombwdsman y dylair Cyngor dalu costau cyfreithiol y rhieni i gyd (os na chawsant gymorth) a thalu iddynt swm ychwanegol iw chytuno efor Ombwdsman i adlewyrchu eu hamser au trafferth o ddilyn eu cwyn drwy eu cyfreithwyr a thrwy swyddfar Ombwdsman. Awgrymodd, hefyd, ir Cyngor drefnu i gynrychiolwyr hyn ymweld ar rhieni ag i ymddiheuro iddynt ac i egluro y camau maer Cyngor yn bwriadu eu cymryd yn awr i helpu eu merch ac i sicrhau na fydd y methiannau a ddarganfuwyd yn digwydd eto. Er mwyn sicrhau na fydd y camweinyddu ar anghyfiawnder yn ail-ddigwydd, argymhellodd yr Ombwdsman ir Cyngor adolygu yn gynhwysfawr ac yn drwyadl ei ddulliau o warchod plant. Dywedodd y dylai ysgolion gael gwybodaeth fod pob atgyfeiriad o ddisgyblion i adran y gwasanaethau cymdeithasol gael ei gadarnhau cyn gynted a phosib yn ysgrifenedig. Dylai staff yr adran gwasanaethau cymdeithasol gael cyfarwyddyd i gadw gofnodion clir ac ysgrifenedig o bob atgyfeiriad, or weithred a gymerwyd fel ymateb ir atgyfeiriad, canlyniad pob ymholiad, yr asesiad a wnaethpwyd yn dilyn ymholiadau ynghyd a phob penderfyniad yngly^n a phlentyn oedd yn debygol o fod mewn perygl o gamdriniaeth. Dylai camau gael eu cymryd, hefyd, i sicrhau fod ymchwiliad i, ac ymateb i, gwyn yngly^n a phlentyn oedd yn ymwneud a mwy nag un adran or Cyngor yn cael ei gydgysylltu yn iawn, a bod unrhyw berson oedd yn gwneud cwyn yn cael gwybodaeth am ei hawl i ddilyn y gwyn drwyr broses gyfreithiol. Roedd angen ir Cyngor hyfforddi ei staff yn adran y gwasanaethau cymdeithasol ac yn yr ysgolion, a dylai pwyslais arbennig gael ei roi i rol y swyddog ar ddyletswydd yn adran y gwasanaethau cymdeithasol. Dylai pob aelod or staff fod yn ymwybodol y dylai achosion gwarchod plant gael blaenoriaeth, a chael eu dosbarthu ir swyddog achos perthnasol ar unwaith. Dylai ysgolion gael gwybodaeth or camau a gymerwyd gan adran y gwasanaethau cymdeithasol fel ymateb i atgyfeiriad disgybl. Y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru 22 Mawrth 2000 |
||
30 Mawrth 2000 |
|||