Ymchwiliadau

PRIFFYRDD

Cyffredinol

98/0927/F/074 - Cyngor Sir Fflint

Mae'r achwynwyr yn berchen siop yn gwynebu sgwâr yng nghanol tref yn Sir Fflint. 'Roeddynt yn cwyno am y modd yr oedd y Cyngor Sir wedi cario allan cynllun gwelliant i'r amgylchedd yn y sgwâr. 'Roedd ran fwyaf o'u cwynion yn ymwneud a haeddiant cynllun y Cyngor i wella golwg y â a haeddiant cynigion ychwanegol y Cyngor i gyfyngu mynediad cerbydau i'r sgwâr a pharcio ynddo. Nid oes gan yr Ombwdsman swyddogaeth i gwestiynnu haeddiant cynigion awdurdod lleol. Fodd bynnag, 'roedd yr Ombwdsman yn yr achos yma yn ymwneud a'r modd yr oedd y Cyngor Sir wedi gweithredu'r cynllun. Gwnaeth y Cyngor Sir gamgymeriadau na ddylai fod wedi'u gwneud.

Yn benodol, cyhoeddodd y Cyngor Sir rybudd o'i fwriad i wneud Gorchymyn Rheoli Traffig yn atal i gerbydau gael eu gyrru ar ran o'r sgwâr. Mae unrhyw fwriad i wneud y fath orchymyn i'w hysbysebu yn unôl â'r gyfraith, er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd osod eu gwrthwynebiadau i'r cynigion. Yn yr achos yma, dywedodd y rhybudd y dylai unrhyw wrthwynebiadau i'r gorchymyn i'w hanfon i'r Cyngor Sir erbyn 12 Chwefror 1999, ond dechreuodd gwaith ar y safle, a bu rhan o'r sgwâr ar gau I draffig ar 25 Ionawr 1999 bron tair wythnos cyn i'r cyfnod i osod gwrthwynebiadau i orffen. 'Roedd dechrau'r gwaith yn yr amgylchiadau yma yn gyfystyr â chamweinyddu. Bu i fethiannau eraill wneud y camweinyddu yn waeth. 'Roedd gorchymyn cynharach ynglyn â pharcio yn y sgwâr a wnaethpwyd ym 1988 wedi'i anwybyddu er fod "platiau" wedi'u gosod yn y sgwar yn dangos yr amser penodedig i barcio yno . Hefyd, 'roedd methiant i wneud cynlluniau'r Cyngor Sir yn glir i'r achwynwyr, er nad oedd yr Ombwdsman wedi'i berswadio bod y swyddogion wedi ceisio camarwain yr achwynwyr fel yr honnwyd.

Fodd bynnag, nid oedd tystiolaeth fod camweinyddu'r Cyngor Sir wedi achosi anghyfiawnder i'r achwynwyr. Er iddynt gredu fod y cynllun wedi cael effaith andwyol ar eu busnes, nid oedd tystiolaeth fod y fath effaith arnynt wedi deillio o ganlyniad i'r gwaith ddechrau cyn i'r Gorchymyn Rheoli Traffig gael ei wneud. Fodd bynnag atalwyd y gwaith ar y rhan yna o'r briffordd cyn gynted i'r camgymeriad gael ei ddarganfod gan y Cyngor Sir. Hefyd, newidiwyd y cynllun er mwyn cyfaddasu barn yr achwynwyr. Agorwyd yr heol a chaniatawyd peth parcio ar yr heol lle mae busnes yr achwynwyr wedi'i leoli.

Hyd yn oed pe medrai'r achwynwyr ddangos fod y cynllun wedi effeithio'n andwyol ar eu busness, byddai hynny yn deillio o'r cynllun ei hun ac nid o unrhyw fethiant gweinyddol a ddarganfuwyd yn adroddiad yr Ombwdsman. Fodd bynnag, gofynnodd yr Ombwdsman i'r Cyngor Sir i sicrhau fod cynlluniau yn y dyfodol ddim yn dechrau cyn fod y Gorchymyn Rheoli Traffig perthnasol wedi'i wneud yn iawn. Yn benodol, gofynnodd i'r Cyngor Sir i sicrhau y byddai y rheini fyddai yn cael eu heffeithio gan unrhyw fwriad tebyg yn y dyfodol yn cael ymgynghoriad llawn.


22 Gorffennaf 1999